Goruchwyliaeth

Rydym yn dal heddluoedd i gyfrif am eu perfformiad mewn ymdrin â chwynion ac yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid plismona allanol i adnabod materion, gweithredu gwelliant ac ymarfer effeithiol, rhanadwy.
Headline of Oversight newsletter

Rydym yn anelu at godi safonau mewn ymdrin â chwynion trwy ein perthynas strategol â lluoedd a chyrff plismona lleol. Byddwn yn dadansoddi data i adnabod patrymau a materion tueddiadau neu berfformiad mewn lluoedd.

Trwy ein gwaith gorychwylio, rydym yn darparu mewnbynnau ymarferydd, gweithdai, hapsamplu a gweithgareddau eraill wedi'u ffocysu i ganiatáu i ni gynhyrchu dogfennau a chyhoeddiadau canllaw, i rannu gwybodaeth, ymarfer effeithiol ac i adnabod gweithgaredd gwella. 

Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod y safonau a disgwyliadau a amlinellir yn ein Canllaw Statudol yn cael eu glynu atynt a bod lluoedd yn cael eu dal i gyfrif am sut maen nhw'n ymdrin â chwynion.

Cylchlythyr

Cynhyrchir ein Cylchlythyr goruchwylio i roi gwybod i ymdrinwyr â chwynion mewn heddluoedd a chyrff plismona lleol am ein gwaith. Mae hyn yn cynnwys newyddion corfforaethol, cyfarwyddyd, cynghorion, ac atebion i gwestiynau cyffredin a dderbyniwn.

Focus

Mae Focus yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol i adrannau safonau proffesiynol heddluoedd ar ymdrin â chwynion, materion ymddygiad, ac achosion marwolaeth neu anafiadau difrifol. Focus

Data heddlu

Dysgwch am yr holl wybodaeth rydym wedi'i chyoheddi am bob llu, gan gynnwys diweddariadau ymchwiliadau, argymhellion dysgu a data perfformiad. Data heddlu