Profiad y defnyddwyr gwasanaeth
Ein ymrwymiad at brofiad y defnyddwyr gwasanaeth
Ein nod yw creu sefydliad sy’n perfformio’n uchel ac sy'n darparu gwasanaeth gwych i ddefnyddwyr gwasanaeth, partneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau. Mae eich adborth yn chwarae rhan ganolog yn siapio’r ffyrdd rydym yn gweithio. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ddeall a gwella profiad defnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys:
• Casglu adborth staff a defnyddwyr gwasanaeth trwy arolygon a chyfweliadau ymchwil
• Rhedeg paneli sy'n cynnwys pobl sydd wedi bod trwy ymchwiliad annibynnol neu broses adolygu cwynion
• Cyd-gynhyrchu adnoddau ac atebion gyda defnyddwyr gwasanaeth i wneud gwelliannau i'r ffordd rydym yn gweithio
• Gweithio gyda grwpiau a sefydliadau sy'n cynrychioli defnyddwyr gwasanaeth i wella ein dealltwriaeth o'u profiadau
Mae mewnwelediadau o'r gweithgareddau hyn yn ein helpu i nodi beth rydym yn ei wneud yn dda a lle gallwn wella ein gwasanaeth.
Ein agwedd tuag at wella'n barhaus ac ansawdd
Rydym yn defnyddio'r diffiniad canlynol o ansawdd i arwain ein gwaith:
Yn IOPC, rydym yn ceisio darparu gwasanaeth annibynnol a hygyrch i bob defnyddiwr. Rydym yn canolbwyntio ar dryloywder, cysondeb a chywirdeb ym mhopeth yr ydym yn gwneud. Rydym yn eich trin yn deg a gyda empathi, gan ddefnyddio eich adborth a'ch profiadau i sbarduno gwelliannau.
Fe wnaethom ni weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a'n staff i greu'r diffiniad hwn fel ei fod yn adlewyrchu profiadau, disgwyliadau a blaenoriaethau gwirioneddol y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau a'r bobl sy'n eu darparu. Cefnogir y diffiniad gan ein un ar ddeg safon gwasanaeth, sy'n nodi sut y byddwn yn gweithio gyda chi a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym.
Yn ogystal â gweithredu yn ôl eich adborth, rydym hefyd yn monitro ansawdd ein gwaith. Rydym yn gwneud hyn trwy:
• Gynnal prosiectau ac archwiliadau mewnol fel ein bod yn deall ansawdd ein gwaith a gallu cymryd camau i wneud gwelliannau
• Nodi a rhannu arfer da ar draws y sefydliad
• Fonitro perfformiad yn erbyn ein safonau
• Weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i ddeall arfer da gan sefydliadau a sectorau eraill
Yn 2024, gwnaethom gyflwyno strwythur llywodraethiant ansawdd newydd, a arweiniodd at ystod o fesurau newydd yn cynnwys proses Cylch Gwella Ansawdd ar gyfer dysgu mewnol, dangosfwrdd sicrhau ansawdd chwarterol a diffiniad o ansawdd ar gyfer y sefydliad.
O 2020 i 2025, roedd gennym achrediad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid. Gallwch ddarllen mwy am ein asesiadau blaenorol ar Yr Archif Genedlaethol.
Gwnaethom y penderfyniad i beidio â dilyn cylch pellach o'r achrediad hwn. Rydym yn ddiolchgar am y canllawiau a'r argymhellion a rannwyd fel rhan o'r asesiadau a byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â'r mewnwelediadau hyn, ochr yn ochr â'r dysgu a nodwyd gennym o adborth gan ein defnyddwyr gwasanaeth a'r gweithgareddau rydym yn gwneud i fonitro ansawdd ein gwaith.