Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid

Mae Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid - yn safon diwydiant wedi'i chefnogi gan y llywodraeth sy'n canolbwyntio ar gyflawni gwasanaeth, amseroldeb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ac agwedd  staff. Mae'n pwysleisio mewnwelediad cwsmeriaid (gwybodaeth am y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau), gan ddeall profiad y defnyddwyr a mesur bodlonrwydd gwasanaeth yn gadarn.

Cawsom ein hasesu yn erbyn 57 elfen wahanol o'r safon. Roedd yr asesiadau'n golygu tystiolaeth o sut rydym yn ateb y safon, ynghyd ag aseswyr sy'n cyfweld ein staff, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid.

Mae'r safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn golygu y gallwch ddisgwyl derbyn safon uchel o wasanaeth oddi wrthym, beth bynnag yw'r canlyniad neu benderfyniad. Byddwn yn sicrhau ein bod yn deall eich amgylchiadau a'ch anghenion. Byddwn yn esbonio ein prosesau i chi a'r hyn y gallwch ddisgwyl oddi wrthym ar bob cam o'n gwaith - a byddwn yn eich trin â pharch a chwrteisi bob amser. Gallwch ddarllen rhagor am ein hymrwymiad i chi yn ein safonau gwasanaeth.

Ein hachrediad

Yng Ngorffennaf 2023, fe wnaethom ddychwelyd i ddechrau cylch tair blynedd Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid®, oedd yn golygu bod rhaid i ni brofi ein cydymffurfiaeth â phob un o'r 57 elfen yn fanwl.

Fe wnaethom gyflawni naw graddiad Cydymffurfiaeth Plws mewn meysydd o gryfder neilltuol (darllenwch ragor am y rhain isod), a 45 graddiad Cydymffurfiaeth ar gyfer meysydd lle rydym yn ateb y safon ofynnol. Fe wnaethom dderbyn tri graddiad Cydymffurfiaeth Rannol am elfennau lle mae angen rhagor o waith i gyrraedd y safon ofynnol yn llawn.

Yn ein hasesiad cyntaf llawn ym Mawrth 2020, fe wnaethom gyflawni dim ond tri graddiad Cydymffurfiaeth Plws, a chwe maes o Gydymffurfiaeth Rannol. Mae ein canlyniadau gwell yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wella taith SAYH ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth - rydym yn falch o'n cynnydd, a byddwn yn parhau i wrando ar a gweithredu ar eich adborth.

Bydd ein hadolygiad blynyddol nesaf yn digwydd yn Haf 2024.

Customer service excellence journey. The image shows the scores for each year from 2020 to 2023.

Cyflawniadau 2023

Adroddiad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer 2023

Gallwch ddarllen ein hadroddiad diweddaraf i ddysgu am ein defnydd o Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid (CSE) fel fframwaith i gyflawni'ch blaenoriaethau sefydliadol. Adroddiad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer 2023