Ymchwil ac ystadegau

Rydym yn cynhyrchu amreddiad o wybodaeth ystadegol ac ymchwil am system gwynion yr heddlu a lefelau hyder y cyhoedd ynddi. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i wella plismona.

Mae ein hymchwil a'n hystadegau yn rhoi cipolwg ar system gwynion yr heddlu a lefelau hyder y cyhoedd ynddi. Rydym yn casglu gwybodaeth am gwynion y mae heddluoedd wedi’u cofnodi, natur marwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â’r heddlu, a data o’n harolygon hyder y cyhoedd.

Mae casglu'r data hwn yn ein galluogi i sylwi ar dueddiadau a chanolbwyntio ein hadnoddau ar feysydd lle gallai fod angen i heddluoedd wneud newidiadau i wella'r gwasanaeth y maent yn darparu i'w cymunedau.

Darganfyddwch sut rydym yn asesu canfyddiad y cyhoedd o’r heddlu

Hyder ac ymgysylltiad y cyhoedd

Ystadegau cwynion yr heddlu

Dysgwch bopeth am gwynion y mae heddluoedd wedi'u cofnodi trwy ddarllen ein hystadegau cwynion heddlu blynyddol. Rydym hefyd yn cynhyrchu bwletinau chwarterol ar gyfer pob heddlu.

Ystadegau marwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â’r heddlu

Darllenwch ystadegau ar natur ac amgylchiadau marwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â’r heddlu. Rydym yn cyoeddi’r ystadegau hyn yn flynyddol.

Llyfrgell Cyhoeddiadau

Chwilio am adroddiad penodol? Gallwch archwilio ein llyfrgell cyhoeddiadau i weld ein holl adroddiadau ymchwiliad a dogfennau defnyddiol eraill i gyd mewn un lle.

Meysydd gwaith allweddol

Mae ein gwaith yn torri ar draws nifer o feysydd a themâu allweddol. Rydym yn defnyddio dysgu o’n gwaith i hyrwyddo safonau uchel o broffesiynoldeb ac atebolrwydd mewn plismona.

Dysgu

Darganfyddwch pam mae ein dysgu o ymchwiliadau ac apeliadau yn hanfodol i wella plismona ac atal digwyddiadau tebyg rhag ddigwydd eto.