Hyder ac ymgysylltiad y cyhoedd
Rydym yn cynnal arolygon rheolaidd i asesu canfyddiadau'r cyhoedd o'r heddlu, yn ogystal â'u hyder yn system gwynion yr heddlu a'n sefydliad.
Rydym hefyd yn ceisio adborth rheolaidd gan ein rhanddeiliaid i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a lle gallai fod angen gwelliant. Mae'r adborth hwn yn helpu i lunio a llywio ein gwaith ehangach i ddylanwadu ar newidiadau mewn plismona, sicrhau atebolrwydd ac annog arfer gorau a safonau uchel o wasanaeth. Mae'r arolygon wedi bod yn arf pwysig ar gyfer mesur ein cynnydd.
Traciwr Canfyddiad Cyhoeddus
Rydym yn cynnal arolygon gydag aelodau o'r cyhoedd i ofyn eu barn amdanom ni fel sefydliad ac am system gwynion yr heddlu. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag Yonder, sefydliad ymchwil annibynnol, i gynnal yr arolygon hyn.
Mae’r data a gesglir yn ein galluogi i olrhain lefelau hyder y cyhoedd ac yn rhoi cipolwg manwl ar hyder y cyhoedd yn system gwynion yr heddlu. Mae canlyniadau'r arolwg yn ein helpu i asesu'r effaith y mae ein gwaith yn ei chael. Rydym hefyd yn defnyddio’r data i gefnogi ein gwaith polisi, ymgysylltu a chyfathrebu.
Rydyn ni’n gofyn cwestiynau craidd sy'n cwmpasu'r pynciau canlynol:
- ymwybyddiaeth o IOPC
- canfyddiad pobl o'n hannibyniaeth
- pa mor debygol yw pobl o wneud cwyn am yr heddlu
- eu barn am sut mae'r heddlu yn delio â chwynion
Mae cwestiynau ychwanegol hefyd wedi'u gofyn ynghylch gwerth ymchwiliadau annibynnol IOPC.
Mae'r prif ganfyddiadau ar gyfer 2024/25 yn cynnwys:
- Mae hanner y cyhoedd yn dweud eu bod yn teimlo'n gadarnhaol am yr heddlu (49%) ac mae'r farn hon wedi aros yr un fath dros y tair blynedd diwethaf.
- Mae 48% o'r cyhoedd yn dweud nad oeddent yn hyderus bod yr heddlu yn delio'n deg â chwynion a wnaed yn eu herbyn (o'i gymharu â 42% a oedd yn hyderus).
- Mae’r mwyafrif o’r cyhoedd yn dweud y byddent yn cwyno pe baent yn anhapus ynglŷn ag ymddygiad swyddog tuag atynt.
- Mae ymwybyddiaeth o IOPC ar y lefel uchaf ers i ni gael ein creu ond mae'n parhau i fod yn is na'r lefel pan mai IPCC oedd ein henw.
- Mae’r mwyafrif o’r cyhoedd yn credu bod IOPC yn gwbl annibynnol neu rywfaint yn annibynnol ar yr heddlu (70%).
Mae arolygon hyder y cyhoedd blaenorol ar gael ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.