CYFWELIAD: Panel Ieuenctid IOPC yn holi’r arweinydd plismona plant

Published: 17 Nov 2026
News

Mae un o swyddogion heddlu mwyaf blaenllaw'r wlad wedi dweud bod angen i blismona wneud mwy i ddeall safbwyntiau a phrofiadau plant a phobl ifanc, a darparu llwyfannau iddynt helpu i ddylanwadu ar bolisïau cenedlaethol a lleol.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Catherine Roper, arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) dros blant a phobl ifanc, y dylai'r heddlu ddysgu o bryderon pobl ifanc a defnyddio eu mewnwelediadau i wella.

Gwnaeth y Prif Gwnstabl Roper y sylwadau hyn mewn cyfweliad gydag aelodau Panel Ieuenctid Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), lle cafodd ei holi ar bynciau yn cynnwys stopio a chwilio, a'r risg o drin plant fel oedolion ("adultification").

"Mae angen inni wrando ar blant a phobl ifanc a'u helpu i godi unrhyw bryderon," meddai'r Prif Gwnstabl Roper. "Nid wyf yn credu bod plismona yn y gorffennol wedi creu llwybr diogel i hynny ddigwydd.

Screenshot showing three youth panel members interviewing CC Catherine Roper

 

"Mae pob llu heddlu'r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i fy strategaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a'i ddull sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae angen iddynt ystyried beth mae hynny'n ei olygu ar gyfer hyfforddiant, stopio a chwilio, a monitro sut mae nhw’n gwella eu ymgysylltiad â phobl ifanc er mwyn bod yn wirioneddol blentyn-ganolog.

"Rwyf eisiau i blismona fabwysiadu ffyrdd ymarferol a thactegol o ymgysylltu â phobl ifanc, gan sicrhau ein bod yn clywed eu barn, gyda'u lles gorau a thegwch wrth galon popeth a wnawn.

"Gallai hyn gynnwys creu paneli craffu ieuenctid neu gyfleoedd i bobl ifanc roi adborth er mwyn dod â phobl ifanc i mewn i'n prosesau hyfforddi. Yn sgil hynny, gallaf gyfrannu at ddatblygu polisïau'r llywodraeth a sefydliadau eraill ar y ffordd orau o gefnogi plant."

Mae pwysigrwydd ystyried safbwyntiau pobl ifanc wrth ddatblygu arferion plismona yn thema ganolog ym Maniffesto Newid 2030 y Panel Ieuenctid.

Mae un o'u 10 argymhellion, sef galw ar yr heddlu i gyfathrebu'n glir â phobl ifanc fod ganddynt yr hawl i wneud cwyn neu roi adborth yn dilyn pob rhyngweithiad â'r heddlu, eisoes wedi cael cefnogaeth ac wedi arwain at gamau gweithredu gan arweinwyr dalfeydd yr heddlu.

Bu aelodau'r panel, Aliyyah (23), Ruksar (24) ac Ashaz, 17 oed, o Lundain, Leeds a Rotherham yn y drefn honno, hefyd yn holi'r Prif Gwnstabl Roper am blant sy'n cael eu hecsbloetio i gyflawni troseddau ac a ddylent gael eu trin fel dioddefwyr plant yn hytrach nag fel rhai dan amheuaeth.

"Mae hwn yn gwestiwn gwych, ac yn gwestiwn cymhleth," meddai. "Rhaid cydnabod plant fel plant, ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod hynny wedi'i wreiddio mewn plismona.

"Bydd adegau pan fydd plentyn wedi cael ei ecsbloetio i gyflawni trosedd. Gallai fod yn ddioddefwr ond hefyd yn rhywun dan amheuaeth. Wrth gwrs, rhaid inni gynnal y gyfraith a chadw pobl yn ddiogel. Yr her yw llywio drwy'r sefyllfa anodd hon.

"Os yw plentyn wedi cael ei arestio a'i gludo i'r ddalfa, efallai am y tro cyntaf, bydd hynny'n foment hynod o straenus. Bydd yn ddryslyd, ac efallai na fydd yn deall rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn. Gofynnir iddo a hoffai gael cyngor cyfreithiol; efallai na fydd yn gwybod pam mae wedi cael ei gadw, ac efallai na fydd yn ymgysylltu. Rwyf nawr wedi gwrthdroi'r dull hwn drwy gynghori pob heddlu y dylid tybio y bydd cyngor cyfreithiol yn cael ei ddarparu, yn hytrach na gofyn cwestiwn a fydd efallai ddim yn cael ei ddeall.

"Mae angen inni sicrhau bod cefnogaeth ar gael, efallai ardaloedd mwy cyfeillgar i blant mewn dalfeydd, neu rywun heblaw rhingyll y ddalfa i siarad â nhw. Rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella'r broses.

"Mae dargyfeirio ac ymyrraeth gynnar yn hollbwysig er mwyn helpu pobl ifanc i osgoi mynd i drafferthion. Un enghraifft yw fy ngwaith gyda'r arweinydd cenedlaethol dros blismona ffyrdd i weld sut y gallwn addysgu pobl ifanc sy'n defnyddio beiciau trydan a sgwteri trydan mewn ffordd sy'n eu gwneud yn fwy agored i niwed."

Ac fe gafodd y Prif Gwnstabl Roper, sydd yn Brif Gwnstabl Heddlu Wiltshire ac wedi treulio 23 mlynedd yn flaenorol gyda Heddlu Metropolitan Llundain, ei holi hefyd gan y panel am stopio a chwilio, anghydraddoldebau hiliol mewn stopio a chwilio, a'r ffordd y caiff plant eu trin fel oedolion.

"Mae'n rhaid cael hyfforddiant ac arweiniad effeithiol ynghylch beth sy'n briodol ac yn gyfreithlon pan ddaw i stopio a chwilio," ychwanegodd.

"Yn aml, rwy'n gweld nad ydym yn cyfathrebu â phlant ynghylch eu hawliau yn ystod rhyngweithiadau. Mae angen inni gyfathrebu'n well yn ystod stopio a chwilio. Ac mae angen inni ddwyn swyddogion i gyfrif am eu gweithredoedd oherwydd rhaid iddynt gyfiawnhau unrhyw ddefnydd o bwerau stopio a chwilio.

"Mae angen i’r maes plismona ddeall yn well y materion sy'n ymwneud â thrin plant fel oedolion a'r rhagdybiaethau ynghylch lefelau aeddfedrwydd. Rwy'n gweithio gyda'r arweinydd cenedlaethol dros stopio a chwilio i wella trefniadau diogelu, ac rwyf wedi cefnogi canllawiau ysgrifenedig sydd wedi cael eu dosbarthu i heddluoedd yn egluro beth yw trin plant fel oedolion a rhagdybiaethau ynghylch lefelau aeddfedrwydd, a'u heffaith.

"Trwy gydol fy ngyrfa rwyf wedi bod eisiau creu amgylchedd plismona lle, os oedd person ifanc yn ofnus, yn ddioddefwr neu'n cael ei ecsbloetio i gyflawni trosedd, y byddai ganddo'r hyder i godi'r ffôn a chysylltu â ni, ac y gallem fod yno ar ei gyfer.

"Mae’r maes plismona wedi dod yn bell, ond nid ydym eto lle mae angen inni fod. Rwyf am roi'r cyfle gorau posibl i bob plentyn a pherson ifanc gael y dyfodol gorau posibl, a sicrhau bod y gefnogaeth maent yn cael gan y gwasanaeth heddlu yn cyfrannu at hynny."

Mae'r rhifyn diweddaraf o'r cylchgrawn IOPC Dysgu’r Gwersi, sy'n rhannu astudiaethau achos o ymchwiliadau IOPC ac enghreifftiau o arfer da, wedi'i ymroi i waith yr heddlu sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc ac wedi'i gyd-gynhyrchu gyda'r Panel Ieuenctid.