Ymchwiliad i gyswllt Heddlu Wiltshire â dioddefwr ymosodiad

Published: 09 Sep 2026
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i gyswllt blaenorol rhwng Heddlu Wiltshire a menyw yn ystod y dyddiau cyn iddi gael ei hanafu'n ddifrifol mewn ymosodiad.

Cafodd y fenyw, sy'n 69 oed, anafiadau gan gyllell a morthwyl yn ystod yr ymosodiad mewn eiddo yn Highworth, Swindon, ar 4 Awst.

Atgyfeiriodd Heddlu Wiltshire eu hunain atom ar 5 Awst oherwydd cyswllt blaenorol yr heddlu â hi ac, ar ôl asesu'r holl dystiolaeth oedd ar gael, rydym wedi penderfynu ei bod hi’n briodol i ni gynnal ymchwiliad annibynnol.

Rydym wedi sefydlu bod yr heddlu wedi mynychu'r cyfeiriad ar 15 Gorffennaf mewn ymateb i bryder am lesiant a godwyd gan drydydd parti, ac eto ar 2 Awst yn dilyn adroddiadau bod dyn a oedd yn ymweld â'r cyfeiriad wedi profi ymosodiad.

Bydd ein ymchwiliad yn archwilio sut wnaeth Heddlu Wiltshire ymateb i'r digwyddiadau hyn, gan gynnwys gweithredoedd a phenderfyniadau'r swyddogion a'r staff dan sylw, yn ogystal ag unrhyw ystyriaethau lles mewn perthynas â'r fenyw.

Dywedodd Derrick Campbell, Cyfarwyddwr Ymgysylltu'r IOPC:

“Roedd hwn yn ymosodiad ysgytwol lle cafodd y fenyw nifer o anafiadau difrifol. Rwyf yn dymuno gwelliant llawn iddi wrth iddi barhau i wella.

“Ar ôl sefydlu bod o leiaf ddau achlysur diweddar pan fu cyswllt uniongyrchol rhwng yr heddlu a'r ddioddefwraig, roeddem o'r farn ei bod yn briodol cynnal ymchwiliad trylwyr i'r amgylchiadau ac ymateb yr heddlu.

“Bydd ein ymchwiliad yn ystyried a oedd cyfleoedd posib i ddiogelu'r fenyw ac atal niwed iddi. Byddwn yn cynnal ein ymholiadau'n ddiwyd ac mor gyflym â phosib.”

Tags
  • Wiltshire Police