Cyn-dditectif Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi cyflawni camymddwyn difrifol trwy gadw tystiolaeth yn ei gartref

Published: 29 Sep 2026
News

Mae cyn-dditectif o Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi cael ei gadarnhau’n euog o gyflawni camymddwyn difrifol ar ôl iddo gadw swm mawr o dystiolaeth yn ei gartref, gan gynnwys ffonau symudol yn ymwneud ag achosion cam-drin plant, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Daeth gwrandawiad carlam camymddwyn, sef proses ddisgyblu a ddefnyddir pan fydd y dystiolaeth yn ddiamheuol, i’r casgliad y byddai’r cyn-Dditectif Gwnstabl (DC) James Cox wedi cael ei ddiswyddo pe na bai eisoes wedi ymddiswyddo. Bydd e hefyd yn cael ei ychwanegu at y rhestr waharddedig, sy’n ei atal rhag cael ei gyflogi gan yr heddlu yn y dyfodol.

Trefnwyd y gwrandawiad ddoe (dydd Llun 28 Medi) gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, a chanfuwyd gan y panel disgyblu fod y cyn-DC Cox, a ymddiswyddodd o’r llu y mis hwn (16 Medi), wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu mewn perthynas â gonestrwydd ac uniondeb; dyletswyddau a chyfrifoldebau; a chyfrinachedd.

Dywedwyd wrth y panel fod tystiolaeth wedi cael ei adennill pan ymwelodd yr heddlu â’i gartref ym mis Ionawr 2025, ar ôl i’w oruchwyliwr gwestiynu lleoliad ffôn symudol oedd yn cynnwys tystiolaeth mewn achos cam-drin plant. Roedd y cyn-DC wedi cael ei atal dros dro pryd hynny mewn cysylltiad ag ymchwiliad IOPC i honiadau eraill o gamymddwyn sydd heb eu cwblhau eto. Yn dilyn hynny, chwiliodd ymchwilwyr IOPC ei eiddo a’i gar, lle cafwyd deunydd pellach yn ymwneud ag achosion cam-drin plant a throseddu cyfundrefnol.

Roedd y deunydd yng nghartref y cyn-DC Cox yn cynnwys 11 ffôn symudol a atafaelwyd mewn cysylltiad ag ymchwiliadau; gwybodaeth â’r dosbarthiad “Swyddogol Sensitif”, gan gynnwys pecynnau briffio, adroddiadau cudd-wybodaeth a manylion pobl dan amheuaeth; copïau papur o negeseuon e-bost yn cynnwys lluniau, manylion pobl dan amheuaeth a dogfennau eraill; dyfeisiau USB a disgiau yn cynnwys data o achosion; a’i radio heddlu Airwave.

Roedd llawer o’r eitemau heb gael eu cofnodi na’u rhoi yn storfeydd eiddo’r heddlu, roedd rhai wedi’u pecynnu’n amhriodol, ac nid oeddent ychwaith wedi’u storio’n ddiogel. Canfuwyd eitemau tystiolaethol eraill yn ddiweddarach yn ei loceri yng Ngorsaf Heddlu Wolverhampton.

Dywedodd Derrick Campbell, Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC:

“Cyfaddefodd cyn-DC Cox ei fod wedi storio arddangosion, eiddo a chudd-wybodaeth wedi’i raddio yn ei gyfeiriad cartref yn fwriadol ac yn wybodus, yn groes i’r polisi.

“Nodwedd arbennig o wael yn yr achos hwn yw difrifoldeb y materion yr oedd y dystiolaeth yn ymwneud â nhw, y posibilrwydd y gallai’r ymchwiliadau hynny fod wedi’u peryglu, a’r risg a grëwyd trwy eu cadw yng nghartref cyn-DC Cox mewn modd mor anniogel.

“Gwnaethom hefyd ganfod fod elfen o anonestrwydd pan ddywedodd wrth oruchwyliwr fod un o’r ffonau symudol oedd yn ymwneud ag achos cam-drin plant mewn gorsaf heddlu, pan oedd mewn gwirionedd yn ei gartref ef.

“Yn amlwg, mae ymddygiad o’r fath yn tanseilio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ac nid oes lle iddo mewn plismona.”

Mae’r gwersi a nodwyd yn sgil ymchwiliad IOPC wedi arwain at argymhelliad bod Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn adolygu eu trefniadau ar gyfer trin eiddo a gedwir a thystiolaeth yng Ngorsaf Heddlu Wolverhampton, er mwyn sicrhau bod yr arferion gwaith yn addas i’r diben ac yn unol â pholisi a chanllawiau’r llu.

Dechreuodd ymchwiliad 12 mis IOPC ar ôl atgyfeiriad ymddygiad gorfodol gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ym mis Chwefror 2025.

Tags
  • West Midlands Police
  • Llygredd a cham-drin pŵer