Diweddariad gan IOPC ar yr ymchwiliad i'r gwaharddiad ar gefnogwyr Maccabi Tel Aviv
Mae cyn Brif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr (West Midlands Police), Craig Guildford, ynghyd â thri swyddog ac un aelod o staff, wedi cael gwybod bod eu hymddygiad yn destun ymchwiliad gan y Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) mewn perthynas â'r gwaharddiad ar gefnogwyr Maccabi Tel Aviv yn Birmingham.
Gwnaethom lansio ymchwiliad annibynnol ym mis Ionawr i edrych ar gyfranogiad swyddogion Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn y gwaith cynllunio a pharatoi ar gyfer gêm yng Nghynghrair Europa yn Villa Park, Aston, ar 6 Tachwedd y llynedd, pan waharddwyd cefnogwyr Maccabi rhag mynychu.
Denodd y penderfyniad drafodaeth ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Oherwydd diddordeb a phryder sylweddol y cyhoedd, defnyddiwyd ein pwerau i alw'r mater i mewn yn rhagweithiol er mwyn sicrhau craffu annibynnol ar Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr. Yn ddiweddarach, cawsom atgyfeiriad ymddygiad gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gorllewin Canolbarth Lloegr mewn perthynas â Mr Guildford.
Mae tîm ymchwilio penodedig wedi archwilio mwy na 600 o ddarnau o dystiolaeth, gan gynnwys dogfennau gweithredol, adroddiadau, ymchwil cudd-wybodaeth, cofnodion cyfarfodydd, a nifer fawr o ohebiaeth gan gynnwys negeseuon e-bost a negeseuon eraill. Rydym hefyd wedi cymryd datganiadau tystion ac wedi ceisio cyngor gan dystion arbenigol.
Ar ôl archwilio'r holl dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, rydym wedi asesu bod arwydd y gallai Mr Guildford, uwch swyddog, ac aelod o staff fod wedi cyflawni camymddwyn difrifol. Maent wedi cael hysbysiad ein bod yn ymchwilio i'w hymddygiad.
Mae'r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn awgrymu y gallai Mr Guildford fod wedi goruchwylio dogfen friffio gudd-wybodaeth a gyflwynwyd i'r Grŵp Cynghori Diogelwch (SAG), ac yr adroddwyd yn ddiweddarach ei bod yn cynnwys anghywirdebau a gwybodaeth gamarweiniol. Rydym o'r farn y gallai Mr Guildford fod wedi methu sicrhau'r lefel briodol o ddiwydrwydd dyladwy a'r lefel uchaf o graffu ar ddogfen mor ddylanwadol.
Honnir fod y briff, a gyflwynwyd i'r SAG ar 24 Hydref ac a oedd yn sail i'r penderfyniad i wahardd cefnogwyr Maccabi, wedi cyflwyno darlun anghytbwys o'r risg yr oedd cefnogwyr gwadd yn ei chynrychioli o'i gymharu â'r risgiau y gallent hwythau fod wedi'u hwynebu.
Mae uwch swyddog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, a chwaraeodd ran arweiniol yn llunio'r briff, dan ymchwiliad am honiad o fethu sicrhau ei gywirdeb ac o bosib am beidio â chyflwyno rhai elfennau o wybodaeth yn gywir, a allai fod wedi arwain at ddiffyg didueddrwydd yn y briff.
Byddwn hefyd yn archwilio a allai'r swyddog fod wedi methu trin cudd-wybodaeth sensitif a oedd yn rhan o'r adroddiad yn briodol cyn iddi gael ei rhannu ag aelodau'r SAG.
Honnir bod yr aelod o staff, a oedd yn rhan o'r gwaith o ymchwilio a chasglu cudd-wybodaeth ar gyfer y gêm, wedi defnyddio gwybodaeth anghywir a gafwyd drwy chwiliadau AI ac na chymerodd unrhyw gamau pellach i helpu sicrhau nad oedd y wybodaeth honno'n cael ei gynnwys mewn briffiau.
Mae dau uwch swyddog arall sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac a chwaraeodd rolau pwysig yn y gwaith o gynllunio ar gyfer y gêm wedi cael gwybod eu bod dan ymchwiliad am gamymddwyn posib.
Honnir nad oedd un ohonynt yn ddigon diwyd wrth gyflawni ei ddyletswyddau wrth oruchwylio'r gweithrediad, gan gynnwys cydbwyso anghenion gweithredol ochr yn ochr ag ymgysylltu â chymunedau Iddewig lleol, a'i fod wedi dangos diffyg didueddrwydd tuag at gefnogwyr Maccabi mewn cyfathrebiadau allanol a mewnol.
Bydd y swyddog arall yn cael ei ymchwilio mewn perthynas â'i oruchwyliaeth o'r ddogfen friffio a honiad ei fod ef hefyd wedi methu cynnal cydbwysedd yn y cyfeiriadau at gefnogwyr Maccabi.
Dywedodd Derrick Campbell, Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC: “Hyd yma, nod ein ymchwiliad yw asesu a oes arwydd y gallai unrhyw unigolyn fod wedi torri un neu fwy o safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu.
“Rydym wedi archwilio cyfoeth o ddeunydd, cannoedd o ddarnau o dystiolaeth, ac yn credu bod arwydd y gallai rhai unigolion sy'n gwasanaethu gyda'r heddlu fod wedi ymddwyn mewn ffordd a allai gyfiawnhau achosion disgyblu.
“Maent wedi cael gwybod y bydd eu hymddygiad yn cael ei ymchwilio. Ar ddiwedd ein ymchwiliad, byddwn yn penderfynu a oes gan unrhyw un achos i'w ateb ac a ddylent wynebu cyfarfod neu wrandawiad camymddwyn.
“Bydd ein holl benderfyniadau yn parhau i gael eu hadolygu wrth i'n hymchwiliad fynd yn ei flaen; mae'n bwysig nodi nad yw cyflwyno hysbysiadau o reidrwydd yn golygu y bydd achosion disgyblu yn dilyn.”