Ymchwiliad i'r modd y deliodd y Met â marwolaeth Edward Cornes
Rydym yn ymchwilio i bryderon ynghylch y ffordd gwnaeth Heddlu'r Met ddelio â marwolaeth Edward Cornes, 19 oed, a ffeindiwyd yn farw mewn gwesty yn Llundain ym mis Hydref 2021.
Dechreuodd ein ymchwiliad ym mis Mawrth yn dilyn atgyfeiriad cwyn gan y Met ac rydym yn archwilio sut y gwnaethant ymdrin â'r ymchwiliad i farwolaeth Edward yn unol â nifer o gwynion a wnaed gan deulu Edward.
Dyma grynodeb o'r cwynion honedig:
- cafodd ymchwiliad y Met ei effeithio gan dybiaethau ac agweddau homoffobig
- methodd y Met ag ail-ymchwilio i farwolaeth Edward yn dilyn tystiolaeth newydd arwyddocaol a methodd â datgelu'r dystiolaeth hon i'r teulu, ac ni chawsant wybodaeth glir a thryloyw am yr ymchwiliad chwaith.
- roedd gan y swyddogion ddiffyg ddiddordeb proffesiynol, gan fethu â chadw cofnodion cywir a diogelu tystiolaeth yn briodol
- cuddiodd y Met dystiolaeth drwy beidio â darparu datgeliad llawn i'r teulu ar ddiwedd yr ymchwiliad
- roedd ymddygiad y Met yn ystod y cwest yn gamddefnydd o'r broses cwest, roedd tystiolaeth a gyflwynwyd gan swyddog yn y cwest am gymeriad Edward yn gamarweiniol ac yn ddi-sail, a methodd yr heddlu ag ymdrin â materion pellach a gododd yn ystod y cwest.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Amanda Rowe: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau gyda theulu a ffrindiau Edward yn dilyn ei farwolaeth drasig.
“Mae’n bwysig bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i’r pryderon a godwyd gan deulu Edward ynghylch sut y mae’r Met wedi ymdrin â’r ymchwiliad i’w farwolaeth.
“Rydym wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â theulu Edward ynghylch manylion eu cwynion a byddant yn parhau i dderbyn diweddariadau trwy gydol ein ymchwiliad.”
Yn ystod ein ymchwiliad, byddwn yn nodi a allai unrhyw unigolyn sy'n gwasanaethu gyda'r heddlu fod wedi ymddwyn mewn modd a fyddai'n cyfiawnhau dechrau achos disgyblu neu wedi cyflawni trosedd.