IOPC yn ymchwilio i farwolaeth dyn yn y ddalfa yn Croydon

Published: 11 Nov 2026
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i farwolaeth Jason Mattison, 52, mewn dalfa heddlu yn Croydon.

Bu farw Mr Mattison yn Ystafell Cadw Windmill Road am tua 1:30yb ar 21 Awst ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn anymatebol yn ei gell.

Gwnaethom ddatgan ymchwiliad annibynnol y bore hwnnw yn dilyn atgyfeiriad gorfodol gan Heddlu'r Met.

Cafodd Mr Mattison ei arestio yn Croydon am amser cinio dydd Mawrth, 19 Awst ar warant heb fechnïaeth a ddarparwyd gan Lys Ynadon Croydon ar ôl iddo fethu ag ymddangos ar gyhuddiad o fod yn feddw ac afreolus.

Roedd e'n parhau i fod yn nalfa'r heddlu yn aros i ymddangos yn y llys.

Rydyn ni wedi archwilio cofnod dalfa Mr Mattison, yn ogystal â fideo CCTV o'r ystafell gadw a fideos corff-wisgedig swyddogion. Rydym wedi sefydlu ei fod wedi bod ar wiriadau lles bob hanner awr.

Cafodd Mr Mattison ei ffeindio yn gorwedd yn anymatebol ar lawr ei gell. Darparodd staff y ddalfa a pharafeddygon gymorth cyntaf brys, ond yn anffodus cafodd ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle.

Mae archwiliad post-mortem wedi cael ei gynnal, a bydd yna brofion pellach i bennu achos ei farwolaeth.

Fel rhan o'r ymchwiliad cyfredol, rydym wedi darparu hysbysiad o ymchwiliad ar gyfer swyddog cadw dynodedig. Yn ôl yr honiadau, methon nhw â gwneud gwiriadau lles rheolaidd ar Mr Mattison, yn ogystal â chofnodi yn anghywir ar ei gofnod dalfa bod gwiriad wedi cael ei wneud.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Amanda Rowe: "Roedd hyn yn ddigwyddiad trasig lle bu farw dyn, ac mae ein meddyliau gyda theulu ac anwyliaid Mr Mattison.

"Pan fydd rhywun yn marw mewn dalfa heddlu, mae hi'n bwysig bod ymchwiliad trylwyr ac annibynnol yn cymryd lle er mwyn archwilio'r holl amgylchiadau. Rydym wedi cwrdd â theulu Mr Mattison i esbonio ein rôl ac fe fyddwn yn sicrhau eu bod nhw'n cael eu cadw yn hysbys wrth i'n ymchwiliad fynd yn ei flaen."

Nid oes dyddiad agor cwest wedi ei gadarnhau eto.