Swyddog Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn euog o ymosod ar ddyn yn Leeds

Published: 10 Jul 2026
News

Mae swyddog Heddlu Gorllewin Swydd Efrog (WYP) wedi ei ddedfrydu am ymosodiad, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). 

Ymddangosodd PC David Watson-Walker, 43 oed, gerbron Llys Ynadon Sheffield heddiw (dydd Gwener 10 Gorffennaf), ac fe gafodd ddirwy o £440 ar ôl cael ei ganfod yn euog o ymosodiad cyffredin mewn perthynas â digwyddiad yn Leeds ym mis Rhagfyr 2024.

Mae’r ddedfryd yn dilyn treial undydd ar 24 Ebrill yn Llys Ynadon Sheffield. Clywyd y dystiolaeth yn y treial dros ddiwrnod llawn ym mis Ebrill ond oherwydd pwysau amser, cytunwyd gyda'r partïon y dylid cyflwyno cyflwyniadau terfynol ysgrifenedig, gyda chyfle pellach i wneud cyflwyniadau llafar ar 27 Mai 2026, gan ganiatáu i ddyfarniad gael ei gyflwyno wedi hynny.

Clywodd y llys fod PC Watson-Walker a chydweithiwr wedi cael eu hanfon allan am 7.38pm ar 17 Rhagfyr yn sgil adroddiad am foped yn cael ei yrru'n beryglus o amgylch Leeds.  

Yn dilyn yr adroddiad, llwyddodd y swyddogion i leoli'r moped a defnyddio grym i ddal y person oedd yn gyrru'r moped ar y llawr.   

Dangosodd dadansoddiad o CCTV oedd ar gael yn yr ardal a fideo corff-wisgedig y cydweithiwr fod PC Watson-Walker wedi rhoi pedwar ergyd pen-glin a thri ergyd llaw i ben y gyrrwr moped cyn i'r gefynnau gael eu rhoi arno. Ar ôl cyrraedd y ddalfa ar Elland Road, cymerwyd gyrrwr y moped i'r ysbyty am anafiadau i'w ben, ei wyneb a'i ffêr.   

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Emily Barry: “Rhaid i unrhyw achlysur lle mae swyddog yn defnyddio grym fod yn rhesymol a chymesur yn yr amgylchiadau. Yn y digwyddiad hwn, defnyddiodd PC Watson-Walker rym gormodol ac afresymol pan darodd ben y dyn dro ar ôl tro, gan ei anafu yn y broses. 

“Er y gellir defnyddio grym os oes angen, mae swyddogion wedi'u hyfforddi i'w ddefnyddio gyda hunanreolaeth. Mae ei weithredoedd, wrth ymosod ar aelod o'r cyhoedd, yn gallu adlewyrchu'n negyddol ar gydweithwyr yr heddlu, yn ogystal ag effeithio ar y cysylltiadau proffesiynol sydd ganddynt â'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

“Mae’r swyddog bellach wedi derbyn euogfarn yn erbyn ei enw a dylai'r achos hwn atgoffa swyddogion y dylai unrhyw rym y maent yn ei ddefnyddio fod yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur yn yr amgylchiadau.” 

Yn ystod yr ymchwiliad, gwnaethom adolygu fideo corff-wisgedig yr heddlu a fideo CCTV. Cafodd y swyddog ei gyfweld o dan rybudd c fe gawsom ddatganiadau tystion hefyd, a gwnaethom adolygu polisïau, canllawiau a deddfwriaeth yr heddlu lleol a chenedlaethol. 

Dechreuodd ein ymchwiliad ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad gan WYP. Yn dilyn casgliad ein ymchwiliad, ym mis Mai 2025, gwnaethom anfon ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd y cyhuddiad. 

Ar ddiwedd ein ymchwiliad, ffeindiom hefyd y dylai PC Watson-Walker wynebu gwrandawiad camymddwyn difrifol am doriad honedig o safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu. Nawr bod y materion troseddol wedi dod i ben, byddwn yn cysylltu â'r WYP i fwrw ymlaen â gweithdrefnau disgyblu.

Tags
  • West Yorkshire Police
  • Defnydd o rym a phlismona arfog