Cyn-swyddog Gorllewin Swydd Efrog wedi'i gyhuddo yn dilyn ymchwiliad i lygredd yn yr heddlu

Published: 02 Jun 2026
News

Bydd cyn-swyddog Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn ymddangos gerbron y llys yr wythnos hon yn dilyn ymchwiliad a gyfarwyddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i honiadau o fethu ag ymchwilio i ddigwyddiad traffig ffordd, lladrad a chamddefnyddio systemau'r heddlu i gael mynediad at wybodaeth gyfyngedig.

Mae'r cyn-Gwnstabl Heddlu Michael Meade, 41 oed, a oedd wedi'i leoli yng ngorsaf heddlu Halifax cyn iddo ymddiswyddo o'r heddlu, yn wynebu cyhuddiadau o:

  • gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder
  • ladrad
  • fynediad heb awdurdod i systemau plismona yn groes i Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â throseddau a gyflawnwyd, yn ôl yr honiad, rhwng Ionawr 2022 a Mai 2023.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Bradford ar ddydd Mercher 3 Mehefin 2026.

Cynhaliwyd ymchwiliad gan Uned Gwrth-lygredd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog dan gyfarwyddyd IOPC ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad gan yr heddlu ym mis Hydref 2023. Ar ddiwedd yr ymchwiliad ym mis Hydref 2025, gwnaethom gyfeirio ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd y cyhuddiadau yn erbyn y cyn-swyddog. 

Tags
  • West Yorkshire Police
  • Llygredd a cham-drin pŵer