Datganiad yn dilyn rhyddfarn ar gyfer swyddog GMP ar dreial am achosi marwolaeth trwy yrru peryglus
Yn dilyn rhyddfarn heddiw (7 Mai) ar gyfer swyddog Heddlu Manceinion Fwyaf PC Mark Burrows, a oedd ar dreial am achosi marwolaeth trwy yrru peryglus mewn cysylltiad â marwolaeth Heather Smedley, dywedodd Cyfarwyddwr IOPC Amanda Rowe:
"Mae ein meddyliau yn aros gyda theulu ac anwyliaid Ms Smedley, yn ogystal â phawb a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad trychinebus hwn.
"Does dim swyddog heddlu yn mynd mewn i gerbyd gan fwriadu achosi niwed, ond pan fydd rhywun yn colli eu bywyd yn dilyn cysylltiad gyda'r heddlu, mae'n bwysig bod yna ymchwiliad trylwyr er mwyn deall sut y digwyddodd hyn.
"Yn yr achos hwn, ar ôl ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael, yn cynnwys tystiolaeth arbenigol, gwnaethom atgyfeirio'r achos at Wasanaeth Erlyn y Goron. Mae'r prawf rydym yn defnyddio er mwyn gwneud y penderfyniad hwn wedi'i osod allan yn y gyfraith, ac mae'n defnyddio trothwy llawer is na'r drothwy sy'n rhaid i'r CPS neu'r rheithgor ddefnyddio.
"Mae craffu cyhoeddus, trwy'r llysoedd pan yn briodol, yn rhan annatod o blismona trwy gydsyniad er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd. Rydym yn diolch i'r rheithgor am eu hystyriaeth gofalus o'r dystiolaeth."
Byddwn ni nawr yn ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod yr achos cyn cwblhau ein penderfyniad ynghylch gweithdrefnau disgyblu posib.