Swyddog Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn pledio'n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder

Published: 07 May 2026
News

Mae swyddog Heddlu Gorllewin Swydd Efrog a ddarparodd gyfrifon camarweiniol o droseddau goryrru gwnaeth hi gyflawni wedi pledio'n euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder yn dilyn ymchwiliad a gafodd ei gyfarwyddo gan Uned Gwrth-Lygredd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Mae Abigail Byrne, 29, sydd wedi seilio yn Huddersfield, wedi cyfaddef i droseddau goryrru yn ardal Kirklees o Orllewin Swydd Efrog ym mis Ionawr 2025 a darparu cyfrif anwir neu gamarweiniol er mwyn osgoi derbyn sancsiwn am drosedd gyrru.

Plediodd Abigail Byrne, sy'n 29 mlwydd oed, yn euog heddiw yn Llys y Goron, Sheffield. Bydd hi'n derbyn ei dedfryd ar 17 Gorffennaf 2026.

Cafodd y swyddog ei dal yn gwibio gan gamera cyflymder ar Ffordd Wakefield A629 yn Huddersfield ar 29 a 31 Ionawr gyda'r camera cyflymder wedi'i leoli ar y ffordd arferol roedd PC Byrne yn cymryd er mwyn cyrraedd y gwaith ac ar adegau yn fuan cyn i'w shifft ddechrau.
                                                                                                                
Fodd bynnag, ar ôl derbyn hysbysiad o droseddau goryrru, derbyniodd bartner PC Byrne y cwrs ymwybyddiaeth cyflymder a'r pwyntiau cosbi oedd yn gysylltiedig â'r troseddau ar ei rhan.

Dywedodd cyfarwyddwr IOPC, Emily Barry: "Rydym yn ymddiried yn swyddogion heddlu i ymddwyn yn onest a gydag uniondeb ond yn yr achos hwn bihafiodd PC Byrne mewn ffordd a oedd yn anonest ac yn camddefnyddio ei swydd.

"O ystyried natur difrifol y cyhuddiadau, roedd yn bwysig ein bod ni'n cael trosolwg annibynnol o'r ymchwiliad, a gynhaliwyd gan Uned Gwrth-Lygredd WYP.

"Mae ymddygiad fel hyn yn tanseilio hyder y cyhoedd mewn plismona ar gyfer pobl sy'n gywir i'w ddisgwyl. Diolch i'r ymchwiliad trylwyr hwn, mae hi wedi cael ei dal i gyfri am ei gweithredoedd a bydd gweithdrefnau disgyblu nawr yn cael eu trefnu er mwyn ystyried a ddylai hi gael ei gwahardd rhag gweithio mewn plismona yn y dyfodol."

Cadarnhaodd tystiolaeth telathrebu a negeseuon testun o ddyfeisiau a gipiwyd bod PC Byrne a'i phartner wedi trafod y pwyntiau a sut i reoli'r sefyllfa. Pan cafodd ei chyfweld o dan rybuddiad troseddol ym misoedd Medi a Tachwedd 2025, rhoddodd PC ymatebion dim sylwadau i'r holl gwestiynau.

Gwnaethom ddechrau ein ymchwiliad cyfeiriedig ym Mehefin 2025 yn dilyn atgyfeiriad gan WYP. Gwnaethpwyd ymholiadau gan Uned Gwrth-Lygredd y llu o dan ein cyfarwyddyd.

Rhoddodd PC Byrne hysbysiad o'i ymddiswyddiad o'r llu mis diwethaf. Ar ddiwedd yr ymchwiliad ym mis Chwefror 2025, atgyfeiriwyd ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, a benderfynodd awdurdodi'r cyhuddiad. Mae hi wedi cael ei hatal o'r llu ers mis Medi 2025.

Tags
  • West Yorkshire Police
  • Llygredd a cham-drin pŵer