Swyddog Heddlu Avon a Gwlad yr Haf dan ymchwiliad am gamymddwyn ynghylch defnyddio Taser ar arddegwr cyn gwrthdrawiad marwol
Mae swyddog Heddlu Avon a Gwlad yr Haf a darodd arddegwr â thaser ar draffordd ychydig cyn iddo gael ei daro a'i ladd gan gar yn cael ei ymchwilio gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ynghylch eu defnydd o rym.
Roedd Logan Smith mewn ambiwlans, ar ei ffordd i'r ysbyty ychydig ar ôl 11pm, ar 30 Tachwedd 2025 pan stopiodd ar lain caled yr M5, tua'r gogledd, oherwydd pryderon gan y parafeddygon ynghylch lles Logan.
Daeth yr arddegwr 18 oed allan o'r ambiwlans ger y gyffordd i Weston-super-Mare a rhedeg ymlaen i'r draffordd. Galwodd criw'r ambiwlans yr heddlu am gymorth a chyrhaeddodd swyddog yn fuan wedyn.
Ceisiodd y swyddog ryngweithio â Logan ar y draffordd ac ychydig amser yn ddiweddarach fe daniodd eu Taser. Syrthiodd Logan i lôn fyw ar y draffordd a chafodd ei daro gan gar, a oedd yn teithio tua'r de. Cafodd driniaeth feddygol, ond yn anffodus bu farw yn y fan a'r lle.
Rydym yn edrych ar a oedd yr opsiynau tactegol, gan gynnwys defnydd y swyddog o’r Taser, yn gymesur ac yn rhesymol ac a ddilynwyd hyfforddiant a pholisïau perthnasol.
Ar y cam hwn ac ar ôl ystyried y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, credwn fod yna arwydd y gallai'r swyddog fod wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu ar lefel camymddwyn. Mae honiad o gamymddwyn yn ymwneud ag ymddygiad a all, os caiff ei brofi, arwain at gamau disgyblu fel rhybudd ysgrifenedig terfynol. Ni fyddai'n arwain at sancsiwn diswyddo.
Mae'r camymddwyn posib rydyn ni wedi'i nodi yn ymwneud â phenderfyniad y swyddog i ddefnyddio eu Taser. Honnir hefyd fod y swyddog wedi methu â chynnal gwiriad cyn tanio eu Taser, fel sy'n ofynnol o dan brotocol Heddlu Avon a Gwlad yr Haf. Hyd yn hyn, mae ein ymholiadau yn dangos bod y Taser wedi gweithredu'n normal pan gafodd ei danio.
Bydd yr hysbysiad camymddwyn yn cael ei adolygu’n gyson ac nid yw o reidrwydd yn golygu y bydd unrhyw gamau disgyblu yn dilyn.
Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Derrick Campbell: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau i fod gyda theulu a ffrindiau Logan. Rydym yn deall yr effaith ddofn y mae colli Logan wedi cael ar ei anwyliaid ac rydym am sicrhau pawb ein bod yn cynnal ymchwiliad trylwyr ac annibynnol i'r amgylchiadau a arweiniodd at ei farwolaeth.
“Fel rhan o’n hymchwiliad rydym wedi comisiynu adroddiad gan arbenigwr Taser annibynnol. Rydym wedi rhannu'r adroddiad hwnnw gyda theulu Logan a Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ac rydym yn ystyried ei ganfyddiadau fel rhan o'n penderfyniadau terfynol.
“Rydym yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Logan, yr heddlu a’r crwner am gynnydd ein ymchwiliad.”