Apêl am dystion protest Bryste wrth i IOPC ymchwilio i farwolaeth dyn

Published: 11 Jun 2026
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn apelio am dystion ar ôl i ddyn farw yn fuan ar ôl cysylltiad â'r heddlu mewn gwrth-brotest yn Bryste yn gynharach eleni.

Cafodd Nicholas Stone, 65 oed, ataliad y galon ar ôl mynychu'r digwyddiad yng nghanol dinas Bryste ar 10 Ionawr.

Mae CCTV yn dangos Mr Stone yn syrthio i'r llawr ar ôl rhyngweithio â dau heddwas yn Stryd Clare ychydig cyn hanner dydd. Cododd a siaradodd â'r swyddogion cyn cerdded i ffwrdd. Gadawodd y gwrth-brotest, a drefnwyd mewn ymateb i brotest a drefnwyd gan y Bristol Patriots, tua 1.20yh, ond bu farw yn fuan wedyn.

Rydym wedi lansio ymchwiliad annibynnol i'r cyswllt a gafodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf gyda Mr Stone ac rydym yn apelio at unrhyw un a oedd yn bresennol ac a allai fod wedi gweld rhyngweithiad Mr Stone gyda'r heddlu i ddod ymlaen.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Derrick Campbell: “Ein cydymdeimladau diffuant i deulu a ffrindiau Mr Stone a phawb yr effeithiwyd arnynt gan ei farwolaeth.

“Roedd llawer o bobl yn y protestiad ar 10 Ionawr ac mae'n bosib bod nifer o wylwyr wedi gweld beth ddigwyddodd rhwng Mr Stone a'r ddau swyddog heddlu ar Clare Street.

Mae'n bwysig ein bod yn sefydlu amgylchiadau'r digwyddiad hwn, felly rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld neu ffilmio'r digwyddiad, neu'r eiliadau cyn hynny, i ddod ymlaen a dweud wrthym beth gwelsant.    

Ar ôl ailasesiad o atgyfeiriad gorfodol a wnaed gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ym mis Ionawr 2026, penderfynom bod angen ymchwiliad annibynnol, a ddechreuodd ym mis Mai 2026.

Rydym wedi cyfarfod â theulu Mr Stone i egluro mwy am gwmpas ein ymchwiliad a sut bydd yn datblygu, a byddwn yn sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol y cyfnod.

Gofynnir i dystion gysylltu ag ymchwilwyr IOPC trwy ffonio 0300 303 5579 neu drwy e-bost: [email protected]

Tags
  • Avon and Somerset Constabulary
  • Defnydd o rym a phlismona arfog