Camymddwyn difrifol wedi ei brofi ar gyfer dau gyn-swyddog Heddlu Gwent am rannu negeseuon sarhaus

Published: 02 Mar 2026
News

Byddai dau gyn-swyddog Heddlu Gwent wedi cael eu diswyddo pe byddent yn dal i wasanaethu yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i negeseuon gwahaniaethol, sarhaus a dirmygus a rannwyd ar WhatsApp.  

Ar ddiwedd gwrandawiad camymddwyn un-dydd, canfuwyd bod y cyn-Heddweision James Heley a Simon Lewis, a ymddiswyddont dridiau cyn y gwrandawiad, wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu o ran: awdurdod, parch a chwrteisi; cydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymddygiad annheilwng. Mae'r ddau gyn-swyddog bellach wedi cael eu rhoi ar restr waharddedig yr heddlu. 

Gwnaeth Heddlu Gwent atgyfeiriad gorfodol atom ni ym mis Tachwedd 2022 ar ôl i negeseuon dirmygus ac amhriodol gael eu darganfod ar ffôn y cyn-swyddog ymadawedig, Ricky Jones.  

Dechreuon ni ymchwiliad yn fuan wedyn, a ehangodd i 11 o swyddogion presennol a chyn-swyddogion, a oedd wedi cyfnewid negeseuon WhatsApp rhwng Ebrill 2015 a Chwefror 2019. Roedd y negeseuon yn y grŵp yn cynnwys:  

  • sylwadau o natur hiliol yn ymwneud â thrychineb Tŵr Grenfell
  • rhannodd PC Heley fideo yn portreadu trais yn erbyn menyw
  • gwnaeth PC Lewis sylwadau homoffobig yn gysylltiedig â thaith cydweithiwr i Wlad Thai 

Cyfarwyddwr IOPC Derrick Campbell: “Roedd nifer o’r negeseuon a rannwyd yn y grŵp WhatsApp dros sawl blwyddyn yn wahaniaethol, yn gwbl amhriodol, ac yn amhroffesiynol. 

“Roedd y misogynedd, yr homoffobia a’r hiliaeth a ddatgelwyd yn y negeseuon hyn yn syfrdanol, yn gwbl annerbyniol, a nid oes lle iddynt mewn plismona. Mae gan yr ymddygiad hyn a'r agweddau mae’n datguddio botensial gwirioneddol i ddadwneud y gwaith gwych mae swyddogion heddlu yn gwneud bob dydd, gan gynnwys y rheiny sy'n ceisio meithrin ymddiriedaeth a hyder gyda chymunedau, yn enwedig cymunedau sy'n anoddach i’w cyrraedd a'r rhai sy'n cynrychioli grwpiau lleiafrifol. 

Arweiniodd archwiliad fforensig digidol o ffôn Mr Jones gan ymchwilwyr IOPC at lawrlwytho a dadansoddi cannoedd o negeseuon a rannwyd rhwng Mr Jones a nifer o'i gyn-gydweithwyr. Yn ystod ein hymchwiliad, a ddaeth i ben ym mis Hydref 2023, fe wnaethom hefyd gael datganiadau a chyfweld â swyddogion unigol, yn ogystal ag adolygu hyfforddiant a pholisïau perthnasol yr heddlu. 

Rydym wedi cael gwybod gan Heddlu Gwent nad oes gwrandawiad camymddwyn difrifol wedi'i gynnal eto ar gyfer cyn-swyddog oedd hefyd, yn ôl yr honiad, wedi cyfnewid negeseuon sarhaus fel rhan o'r grŵp.  

Diwedd. 

Nodiadau i olygyddion 

Fel rhan o'r un grŵp, cafodd camymddwyn ei brofi ar gyfer tri swyddog sy'n gwasanaethu, mewn cyfarfodydd disgyblu a gynhaliwyd yn 2024.

Ni chymerwyd unrhyw gamau pellach yn erbyn pedwar cyn-swyddog a oedd yn cael eu hymchwilio am gamymddwyn gan eu bod wedi gadael yr heddlu naill ai cyn neu yn ystod ein hymchwiliad.   

Fe wnaethon ni stopio ein hymchwiliad i gamymddwyn troseddol a difrifol yn erbyn swyddog sy'n gwasanaethu ynghylch honiad o ddatgeliad anawdurdodedig o wybodaeth yr heddlu, oherwydd diffyg tystiolaeth.   

Mae rhagor o fanylion am y canlyniadau hyn ar gael yma .

Tags
  • Heddlu Gwent
  • Gwahaniaethu