Ymchwiliad IOPC yn dod i’r casgliad nad oedd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi achosi neu wedi cyfrannu at farwolaeth menyw yn y ddalfa

Published: 21 Nov 2025
News

Mae ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi canfod bod swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau wrth drin menyw a fu farw yn y ddalfa.

Cafodd Helen Williams ei harestio am 10.20am ar 23 Mai 2024 y tu allan i eiddo ym Mangor er mwyn ei dychwelyd i'r carchar. Aethpwyd â'r fenyw 43 oed i orsaf yr heddlu Caernarfon lle’r awdurdodwyd y penderfyniad i'w chadw tua hanner dydd.

Roedd hi yn y ddalfa am tua 33 awr yn aros i ymddangos gerbron y llys. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd staff y ddalfa yn arsylwi'n rheolaidd arni, a chafodd ei gweld gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Roedd Ms Williams i fod i ddychwelyd i'r carchar yn ystod prynhawn 24 Mai 2024. Pan gyrhaeddodd y cludiant penderfynwyd nad oedd hi'n ddigon iach i deithio. Tua 4.15pm, wrth aros i gael ei chludo i'r ysbyty, cafodd ei tharo’n ddifrifol wael. Rhoddwyd cymorth cyntaf iddi gan swyddogion a staff yr heddlu, a chyrhaeddodd parafeddygon tua 40 munud yn ddiweddarach, ond yn anffodus datganwyd ei bod wedi marw am 5.19pm.

Ar ddiwedd cwest undydd yng Nghaernarfon ddydd Mercher (19 Tachwedd), daeth y rheithgor i'r casgliad bod ei marwolaeth yn gysylltiedig â chyffuriau.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Derrick Campbell: “Roedd hwn yn achos trasig. Rwy'n cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Ms Williams a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ei marwolaeth. Ar ddiwedd ein hymchwiliad ym mis Mehefin 2025, ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod yr heddlu wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd at farwolaeth Ms Williams. Nodwyd bod swyddogion wedi gweithredu yn unol â'r polisi a'r gweithdrefnau wrth ei harestio a'i chadw yn y ddalfa.

“Mae'r dystiolaeth yn dangos bod yr ymyriadau meddygol gan swyddogion a staff yr heddlu yn amserol ac yn briodol ond, yn anffodus, nid oedd modd iddynt atal ei marwolaeth.”

Dechreuodd ein hymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad mandad gan Heddlu Gogledd Cymru. Fe wnaethom edrych ar lefel y gofal a ddarparwyd i Ms Williams yn ystod yr amser a dreuliodd yn y ddalfa, a gwelodd yr ymchwilwyr luniau fideo teledu cylch cyfyng a lluniau fideo o gamerâu a oedd yn cael eu gwisgo wrth iddi gael ei harestio a'i chadw yn y ddalfa, yn ogystal â dogfennau perthnasol yr heddlu.

Hefyd, cafwyd datganiadau tystion gan swyddogion a staff a oedd wedi ymwneud â Ms Williams, a gan y parafeddygon a oedd wedi rhoi triniaeth iddi. Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad bod Ms Williams wedi marw o gymhlethdodau yn ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau.

Tags
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Caethiwed a charchariad