Swyddog Heddlu Gogledd Cymru wedi’i gael yn ddieuog o ymosod ar ddyn ym Mhorthmadog

Published: 08 May 2025
News

Mae swyddog Heddlu Gogledd Cymru wedi’i gael yn ddieuog o ymosod wrth arestio dyn ym Mhorthmadog, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH). 

Roedd PC Richard Williams, 43 oed, wedi cael ei gyhuddo o ymosod gan achosi niwed corfforol gwirioneddol a thagu heb fod yn angheuol. Cafodd ei ryddhau heddiw (8 Mai 2025) ar ôl achos llys saith diwrnod yn Llys y Goron Caernarfon. 

Yn dilyn atgyfeiriad ymddygiad gan Heddlu Gogledd Cymru, fe wnaethom ymchwilio i ddigwyddiad lle roedd y swyddog yn arestio'r dyn yng ngardd eiddo ym Mhorthmadog ychydig cyn hanner dydd ar 10 Mai 2023, pan ddigwyddodd y defnydd gormodol honedig o rym. 

Yn ystod yr ymchwiliad, fe wnaethom gasglu ac adolygu lluniau o'r arestiad, yn ogystal â chymryd tystiolaeth tystion a chyfweld â'r swyddog o dan gamymddwyn difrifol a rhybudd troseddol.

Dywedodd Cyfarwyddwr SAYH, Derrick Campbell: “Ar ddiwedd ein hymchwiliad ym mis Tachwedd 2023, fe wnaethom gyfeirio ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron a benderfynodd ddwyn y cyhuddiadau. Roedd yn briodol i’r dystiolaeth o’n hymchwiliad i’r grym a ddefnyddiwyd yn erbyn y dyn gael ei phrofi yn y llys. Mae'r rheithgor bellach wedi canfod bod y swyddog heddlu yn ddieuog.”

Gan fod yr achos troseddol wedi dod i ben, byddwn yn cysylltu â'r heddlu ynghylch achos disgyblu posibl yn erbyn PC Williams.

Tags
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Defnydd o rym a phlismona arfog