IOPC yn dod i’r casgliad y dylai swyddog Heddlu De Cymru wynebu gwrandawiad camymddwyn yn dilyn ymchwiliad i ddamwain e-feic angheuol yng Nghaerdydd

Published: 28 Aug 2025
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi dod i’r casgliad bod gan swyddog Heddlu De Cymru achos i’w ateb am gamymddwyn difrifol mewn cysylltiad â’n hymchwiliad i ddamwain e-feic lle bu farw dau fachgen.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16 oed, a Harvey Evans, 15 oed, ar ôl i’r beic Sur Ron yr oedden nhw’n ei reidio fod mewn damwain yn ardal Trelái yng Nghaerdydd, ym mis Mai 2023.

Dangosodd teledu cylch cyfyng fan heddlu yn gyrru y tu ôl i’r ddau fachgen yn gynharach. Roedd tua hanner milltir i ffwrdd o’r e-feic, ar ffordd arall, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad angheuol. Yn ystod ein hymchwiliad, ni ddaethom o hyd i unrhyw arwydd o gyswllt rhwng cerbyd yr heddlu ac e-feic y bechgyn yn union cyn y gwrthdrawiad.

Fodd bynnag, daeth ein hymchwiliad i’r casgliad bod gan y swyddog heddlu a oedd yn gyrru’r fan achos o gamymddwyn difrifol i’w ateb dros gywirdeb yr adroddiadau a ddarparodd i gydweithwyr ar ôl y gwrthdrawiad.

Credwn y gallai panel disgyblu’r heddlu ganfod fod anghysondebau a thystiolaeth groes yn y wybodaeth a roddwyd gan y swyddog, a allai dorri safonau gonestrwydd ac uniondeb yr heddlu.

Daeth ymchwilwyr IOPC i’r casgliad hefyd bod gan y swyddog achos i’w ateb, ar lefel camymddygiad, mewn perthynas â’i yrru a’r iaith a ddefnyddiodd mewn perthynas â’r bechgyn yn lleoliad y gwrthdrawiad.

Credwn y gallai panel ganfod bod ei yrru ar y pryd y tu allan i’w lefel o hyfforddiant ac awdurdod, ac yn groes i ymarfer proffesiynol awdurdodedig y Coleg Plismona a pholisi y llu ei hun ar erlid.

Meddai Cyfarwyddwr IOPC, David Ford: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau i fod gyda theuluoedd Kyrees a Harvey a phawb sydd wedi’u heffeithio gan y golled, â hwythau mor ifanc. Rydyn ni’n gwybod bod marwolaethau’r bechgyn wedi cael effaith ddofn ar y gymuned leol.

“Ein rôl pan fydd rhywun yn marw ar ôl cyswllt â’r heddlu yw archwilio’r holl amgylchiadau sy’n ymwneud â’r digwyddiad hwnnw.

“Edrychodd ein hymchwiliad annibynnol ar y rhyngweithio rhwng Heddlu De Cymru a’r bechgyn cyn y gwrthdrawiad, ynghyd ag adroddiadau a ddarparwyd gan swyddogion yn y fan a’r lle ac yn ddiweddarach i’n hymchwiliad.

“Ar ôl adolygiad trylwyr o’r dystiolaeth honno a chymhwyso’r prawf cyfreithiol perthnasol - y gallai panel disgyblu’r heddlu farnu bod yr achos wedi’i brofi – rydyn ni wedi penderfynu y dylai swyddog wynebu achos disgyblu. Mater i banel disgyblu’r heddlu fydd penderfynu a yw’r honiadau’n cael eu profi.”

Yn ystod ein hymchwiliad, fe wnaethom ymgynghori ag arbenigwyr gan gynnwys arbenigwr pwnc Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar yrru’r heddlu ac eraill sydd â gwybodaeth arbenigol am reoli erlid gan yr heddlu ac archwilio lleoliadau gwrthdrawiad.

Mae ein hail ymchwiliad i gwynion y teuluoedd yn erbyn Heddlu De Cymru yn agos at gael ei gwblhau o hyd.

Nodiadau

  • Y prawf cyfreithiol sy’n llywodraethu ein gwaith wrth benderfynu a oes achos i’w ateb mewn achosion disgyblu’r heddlu yw: a oes digon o dystiolaeth y gallai panel disgyblu wneud canfyddiad o gamymddygiad ar ei sail, yn ôl pwysau tebygolrwydd.
  • Ym mis Rhagfyr 2024 gwnaethom atgyfeiriad i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS), gan ein bod o’r farn bod arwydd y gallai’r swyddog a oedd yn gyrru fan yr heddlu fod wedi cyflawni trosedd gyrru’n beryglus. Ym mis Ebrill eleni, penderfynodd y CPS i beidio â dwyn unrhyw gyhuddiad troseddol ac mae’r penderfyniad hwnnw ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i gynllun hawl dioddefwr i adolygiad y CPS.
Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Digwyddiadau traffig ffyrdd
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol