Ymchwiliad yn cael ei lansio ar ôl marwolaeth yn y ddalfa yng Nghaer

Published: 12 Aug 2026
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i farwolaeth menyw a ddaeth yn anymatebol tra yn nalfa’r heddlu yng Nghaer.

Gallwn gadarnhau bod menyw 46 oed wedi marw yn yr ysbyty dydd Mawrth diwethaf (4 Awst) ar ôl iddi fynd yn sâl yn Ystafell Dalfa Gorllewin Swydd Gaer, Blacon, Caer, o ganlyniad i’r hyn a ymddengys yn ddigwyddiad meddygol.

Dechreuodd ein ymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad gorfodol gan Heddlu Swydd Gaer ar ddydd Mercher 5 Awst. Gwnaethant ein hysbysu bod y fenyw wedi dod yn anymatebol tua 10.40yb y diwrnod cynt.

Mae ymholiadau cychwynnol yn dangos bod yr heddlu wedi derbyn galwad yn gyntaf dydd Llun 3 Awst am 5.30pm gan staff yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Iarlles Caer, a ofynnodd am gymorth i fenyw a oedd yno. Mynychodd swyddogion a chynorthwyo'r ddynes i mewn i dacsi i fynd adref ar ôl cael ei rhyddhau gan staff yr ysbyty.

Derbyniodd Heddlu Swydd Gaer ail alwad, ychydig cyn 7pm yr un noson gan gymdogion y ddynes a oedd wedi riportio aflonyddwch y tu allan i'w cartrefi. Aeth swyddogion yno ac arestiwyd y ddynes a'i chludo i'r ddalfa.

Cyrhaeddodd yr ystafell ddalfa ychydig cyn 8pm ond cafodd ei dychwelyd i'r ysbyty ar ôl cael ei gweld gan ymarferydd gofal iechyd. Dychwelodd y ddynes i'r ddalfa yn oriau mân bore dydd Mawrth pan aeth yn sâl a galwyd parafeddygon. Yn anffodus bu farw yn ddiweddarach y noson honno yn yr ysbyty.

Mynychodd ymchwilwyr IOPC yr ystafell ddalfa i ddechrau adolygu tystiolaeth drwy gael gafael ar fideos CCTAV a chamerâu corff-wisgedig. Fe wnaethon ni gyhoeddi ymchwiliad annibynnol am 11.45yb ar ddydd Mercher 5 Awst.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Amanda Rowe: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig lle bu farw menyw yn anffodus ac mae ein meddyliau gyda’i theulu a’i hanwyliaid.

"Atgyfeiriodd Heddlu Swydd Gaer y mater hwn atom ni, ac oherwydd ei bod hi yng ngofal yr heddlu ar yr adeg y dechreuodd deimlo'n sâl, mae'n bwysig bod ymchwiliad trylwyr ac annibynnol yn cael ei gynnal." Byddwn yn archwilio pob mater perthnasol gan gynnwys y cyfathrebu rhwng y swyddogion a'r fenyw cyn ac ar ôl iddi gyrraedd y ddalfa.  

"Rydym wedi cysylltu â'i theulu i esbonio ein rôl a byddwn yn eu diweddaru wrth i'n ymholiadau fynd yn eu blaen."

Tags
  • Cheshire Constabulary
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol