Swyddog Cwnstabliaeth Swydd Gaer wedi'i gyhuddo o ymosodiad
Published:
03 Jun 2026
News
Mae swyddog o Gwnstabliaeth Swydd Gaer wedi'i gyhuddo o ymosod ar ddyn 80 oed a oedd wedi'i gymryd mewn i ddalfa’r heddlu.
Mae hyn yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i gyswllt yr heddlu â'r dyn, a aeth yn ddifrifol wael yn ystod ei amser yn y ddalfa, ym mis Rhagfyr 2025.
Mae PC Benjamin Betts, sydd wedi'i leoli yn Warrington, i ymddangos gerbron Llys Ynadon Lerpwl a Knowsley ar 4 Mehefin, wedi'i gyhuddo o ymosod drwy guro.
Edrychodd ein ymchwiliad ar y defnydd o rym yn ystod rhan o amser y dyn yng Nghyfleuster Cadw Gogledd Swydd Gaer. Mae ymchwiliad ar wahân yn parhau i weithredoedd y swyddogion a oedd yn rhan o arestio a chadw'r dyn, a'r ymateb i'w sefyllfa feddygol.