Swyddogion Heddlu Dyfnaint a Chernyw dan ymchwiliad am farwolaeth dyn

Published: 26 Mar 2026
News

Mae tri swyddog Heddlu Dyfnaint a Chernyw dan ymchwiliad camymddygiad difrifol gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ar ôl i ddyn farw yn nalfa’r heddlu.

Aeth Michael Carolan yn sâl tra oedd yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Torquay a bu farw am 5am ar 15 Ionawr ar ôl cael ei drosglwyddo i'r ysbyty gan griw ambiwlans.

Roedd aelodau pryderus o'r teulu wedi riportio bod Mr Carolan ar goll am 9pm y noson gynt ac fe gafodd ei ddarganfod gan swyddogion yn Paignton tua dwy awr a hanner yn ddiweddarach. Cafodd y dyn 28 oed ei arestio a'i gludo i orsaf heddlu Torquay.

Cawsom atgyfeiriad gan yr heddlu yn fuan ar ôl i Mr Carolan farw.  Bydd ein ymchwiliad yn archwilio'r holl amgylchiadau yn y cyfnod cyn marwolaeth Mr Carolan gan gynnwys y penderfyniad i'w arestio, natur a digonolrwydd y chwiliadau a gynhaliwyd ar Mr Carolan, yr asesiadau risg a gwblhawyd, lefelau arsylwi tra yn y ddalfa, a'r sylw meddygol a gafodd. Rydym hefyd yn edrych ar gŵyn gan deulu Mr Carolan mewn perthynas â sut y cyfathrebodd yr heddlu â nhw yn ystod ei gyfnod yn y ddalfa ac ar ôl iddo fe farw.    

Rydym wedi hysbysu tri swyddog heddlu eu bod dan ymchwiliad camymddwyn difrifol am y posibilrwydd o fod wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu o ran awdurdod, parch a chwrteisi a dyletswyddau a chyfrifoldebau. Mae'r hysbysiadau'n ymwneud â'u rhyngweithiadau â Mr Carolan a'r gwiriadau a gynhaliwyd arno yn ystod ei gyfnod yn y ddalfa. Bydd hyn yn cael ei adolygu’n gyson trwy gydol ein ymholiadau.    

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Derrick Campbell: “Mae fy nghydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau Mr Carolan a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ei farwolaeth.

“Rydym wedi cwrdd â theulu Mr Carolan ac wedi egluro ein rôl ac rydym yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt yn rheolaidd wrth i’n ymchwiliad fynd ymlaen. Rydym yn archwilio gweithredoedd yr heddlu wrth gymryd Mr Carolan i'r ddalfa a lefel y gofal a ddarparwyd iddo yn ystod y cyfnod y bu yn y ddalfa.

“Rydym yn annibynnol o’r heddlu ac mae’n bwysig ein bod yn cynnal ymchwiliad i sefydlu’n llawn yr amgylchiadau pan fydd rhywun wedi marw yn nalfa’r heddlu.”

Rydym yn casglu adroddiadau gan swyddogion a staff dan sylw, yn ogystal ag adolygu CCTV o'r ddalfa a fideo corff-gamera gan swyddogion a gymerodd ran yn arestio Mr Carolan a'i gadw yn y ddalfa wedi hynny.   

Nid yw cyflwyno hysbysiadau camymddwyn difrifol o reidrwydd yn golygu y bydd gweithdrefnau disgyblu yn dilyn. Bydd penderfyniadau ynghylch a ddylid cynnal achos disgyblu ai peidio yn cael eu gwneud ar ddiwedd ein ymchwiliad.    

Tags
  • Devon and Cornwall Police
  • Caethiwed a charchariad