Swyddog Heddlu Gwent wedi cael ei ddiswyddo ar ôl profi camymddwyn difrifol

Published: 24 Nov 2022
News

Mae swyddog o Heddlu Gwent wedi cael ei ddiswyddo ar ôl i gamymddygiad difrifol gael ei brofi mewn gwrandawiad disgyblu gan yr heddlu, yn dilyn ymchwiliad dan gyfarwyddyd yr IOPC.

Canfuwyd bod PC Robert Davies wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu ar ôl cynnal sgyrsiau neges destun amhriodol ac amhroffesiynol gyda thair aelod benywaidd o’r cyhoedd rhwng Ionawr a Mai 2020.

Dangosodd tystiolaeth a gasglwyd yn ystod ein harchwiliad, a gynhaliwyd gan dditectifs o Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent ac a gyflwynwyd yn y gwrandawiad, fod PC Davies wedi cyfarfod â’r tair menyw yn ystod ei ddyletswyddau.

Darganfuwyd wedyn ei fod wedi cyfathrebu â'r merched trwy negeseuon testun a galwadau ffôn ar wahanol adegau o'r dydd a'r nos gan gynnwys pan oedd ar ddyletswydd ac i ffwrdd o'r gwaith. Dros y cyfnod o bedwar mis, cyfnewidwyd 298 o negeseuon testun rhwng PC Davies ac un o’r merched, 277 gyda'r ail menyw, a 161 gyda’r drydedd.

Roedd y negeseuon a anfonodd wedi cynnwys:

“Roeddwn i'n meddwl amdanat yn bod yn ddrwg gyda fi” , “byse's dda cael noson allan dda”, “deniadol ym mhob ffordd”, “meddwl amdanat ti lawer”.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwiliadau Mawr yr IOPC, Steve Noonan:

“Roedd y negeseuon a anfonodd PC Davies at y merched hyn yn amlwg yn or-gyfarwydd ac yn ormodol. Roedd dwy o'r merched yn cael eu hystyried yn agored i niwed. Torrodd ei safle o ymddiriedaeth drwy ymddwyn yn amhroffesiynol ac roedd gan ei weithredoedd y potensial i danseilio hyder mewn plismona. Mae’r dystiolaeth o’r ymchwiliad wedi cael ei chyflwyno i banel disgyblu’r heddlu sydd wedi penderfynu ar ganlyniad diswyddo.”

Canfuwyd bod PC Davies wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu gan gynnwys uniondeb, parch ac awdurdod, ac ymddygiad anfri. Roedd y panel o'r farn bod y negeseuon o natur rywiol.

Mae'r ymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad gan Heddlu Gwent ym Mai 2020. Ar ddiwedd yr ymchwiliad ym mis Rhagfyr 2020 canfuom fod gan PC Davies achos i’w ateb am gamymddwyn difrifol. Gwnaethpwyd atgyfeiriad at Wasanaeth Erlyn y Goron a benderfynodd beidio â dwyn unrhyw gyhuddiad troseddol.

Bydd PC Davies nawr yn cael ei ychwanegu at restr wahardd yr heddlu.

Tags
  • Heddlu Gwent
  • Llygredd a cham-drin pŵer