Mae ymchwiliad yn digwydd i mewn i farwolaeth dyn yn nalfa Heddlu De Cymru ym Merthyr Tudful

Published: 03 Oct 2022
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i farwolaeth dyn yn y ddalfa ym Merthyr Tudful ar 21 Medi.

Cafodd James Barnes, 45, ei stopio gan swyddogion Heddlu De Cymru ar amheuaeth o droseddau cyffuriau am tua 8 o’r gloch yr hwyr ar 20 Medi yn Nhrefforest. Cafodd Mr Barnes a'r cerbyd roedd yn teithio ynddo eu chwilio cyn iddo gael ei gludo i orsaf heddlu Pontypridd i ddechrau lle cynhaliwyd noeth-chwiliad. Cafodd ei arestio am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A ond ni chafodd ei gyhuddo o unrhyw drosedd.

Rydym wedi sefydlu bod Mr Barnes wedi cael ei gludo wedyn i’r ddalfa yng ngorsaf heddlu Bridewell Merthyr lle cafodd ei awdurdodi i'w gadw tua 10.30 pm. Cafodd ei roi ar wiriadau lles rheolaidd. Tua 4.30 am y diwrnod wedyn, sylwodd staff y ddalfa ei fod yn sâl yn ei gell, dechreuon nhw roi cymorth cyntaf, a cafodd ambiwlans ei alw yn fuan wedyn. Yn anffodus, cyhoeddodd parafeddygon fod Mr Barnes wedi marw yn ystafell y ddalfa am tua 6.30 am ar ddydd Mercher 21 Medi.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru hysbysu’r IOPC o’r farwolaeth y bore hwnnw. Mynychodd ymchwilwyr weithdrefn ôl-ddigwyddiad yr heddlu ym Merthyr Bridewell lle casglwyd adroddiadau cychwynnol gan swyddogion a staff. Mae ymchwilwyr yn adolygu lluniau CCTV o ystafell y ddalfa a lluniau fideo a wisgwyd ar y corff gan yr heddlu. Rydym hefyd yn dadansoddi'r cofnodion cadw ynghyd â datganiadau gan y rhai dan sylw. Mae pob heddwas yn cael eu trin fel tystion ar hyn o bryd.

Cafodd post mortem ei gynnal ar 23 Medi ac mae profion ychwanegol yn cael eu cynnal. Mae'r Crwner wedi cael gwybod.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: “Rydym wedi cyfarfod â theulu Mr Barnes i fynegi ein cydymdeimlad am eu colled ac i egluro sut y bydd ein hymchwiliad yn digwydd. Lle mae rhywun yn anffodus wedi marw tra yn nalfa'r heddlu, mae’n bwysig ein bod yn ymchwilio’n ofalus ac yn ddiduedd i’r holl amgylchiadau. Rydym yn archwilio os gwnaethpwyd y gwaith o chwilio, arestio a chadw Mr Barnes yn unol â pholisi a gweithdrefnau’r heddlu lleol a chenedlaethol perthnasol, ac os oedd lefel y gofal a ddarparwyd iddo tra yn y ddalfa carchar yn briodol.”

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Caethiwed a charchariad
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol