IOPC i ymchwilio i swyddogion Heddlu Gwent dros rannu honiadau am negeseuon tramgwyddus

Published: 24 Nov 2022
News

Roedd y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu wedi penderfynu i ymchwilio'n annibynnol i ymddygiad sawl swyddog oedd yn gwasanaethu Heddlu Gwent dros honiadau o rannu negeseuon tramgwyddus.

Mae'r penderfyniad yn dilyn asesiadau gofalus o atgyfeiriadau a gwybodaeth gysylltiedig gan Heddlu Gwent a dderbyniwyd yr wythnos hon yn ogystal â'r wythnos ddiwethaf, ar ôl i fanylion o negeseuon ar ffôn swyddog heddlu sydd nawr weddi marw gael eu cyhoeddi ar 13 Tachwedd. Mae'r negeseuon a gyhoeddwyd o natur hiliol, gwreig-gasaol a homoffobig a chyfeiriodd rhai at lygredigaeth posibl.

Rydym wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan Heddlu Gwent mewn perthynas â rhan honedig cyn-swyddogion mewn rhannu'r negeseuon, a byddwn yn gwneud penderfyniad os ydynt yn syrthio o fewn awdurdodaeth yr IOPC ac felly os caniateir i ni eu cynnwys yn gyfreithiol yn yr ymchwiliad yn y man.

Rydym hefyd wedi ystyried atgyfeiriadau gan Heddlu Gwent a Heddlu Wiltshire yn amlinellu cyfres o gwynion gan deulu'r cyn-Sarsiant Heddlu Ricky Jones yn ymwneud â thriniaeth y llu o'i ymchwiliad i'w farwolaeth a chysylltiad swyddogion â'i berthnasau.

Rydym wedi penderfynu bod y materion hyn yn gallu parhau i gael eu hymchwilio gan lu ar wahân, Heddlu Wiltshire. Bydd gan y teulu yr hawl i adolygiad i'r IOPC os nad ydynt yn fodlon â'r canfyddiadau a'r canlyniad o'r ymchwiliad hwnnw. Bydd agweddau o gwynion y teulu sy'n ymwneud â'r negeseuon ffôn tramgwyddus yn cael eu hymgorffori i ymchwiliad ymddygiad annibynnol yr IOPC.

Fel rhan o'n hymchwiliad, byddwn yn ystyried os dylai honiadau am ymddygiad ynghylch y negeseuon ffôn fod wedi cael eu hatgyfeirio ar yr IOPC yn gynharach.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: "Rwy'n cydnabod y bydd llawer o bobl yn canfod y negeseuon sydd wedi'u mynegi yn gyhoeddus, sy'n ymddangos eu bod wedi'u rhannu gan swyddogion heddlu, yn peri pryder mawr.

"Ar ôl cyhoeddi'r erthygl mewn papur newydd cenedlaethol, fe wnaethom ysgrifennu'n ffurfiol at Brif Gwnstabl Gwent yn gofyn iddynt ddarparu gwybodaeth i ni i sefydlu'r gadwyn ddigwyddiadau a'r penderfyniadau a gymerwyd mewn perthynas â chwynion y teulu, ac unrhyw faterion ymddygiad. Nid oeddem wedi derbyn atgyfeiriad o'r blaen gan y llu ar unrhyw un o'r materion hyn.

"Ar sail ein hasesiad o'r atgyfeiriadau ymddygiad a dderbyniwyd hyd yn hyn, rydym wedi penderfynu bod ymchwiliad annibynnol yn hanfodol i gynnal hyder y cyhoedd. Byddwn yn ymchwilio i gyfranogaeth honedig nifer o swyddogion Heddlu Gwent sy'n gwasanaethu mewn rhannu negeseuon tramgwyddus. Byddwn yn cadw cyfranogaeth unrhyw swyddogion eraill sy'n gwasanaethu a chyn-swyddogion o dan adolygiad wrth i ragor o wybodaeth ddod i'r amlwg. Bydd angen i ni ddatblygu lawrlwythiad llawn o ddata o ffôn Mr Ricky Jones. Rwy'n gofyn am amynedd wrth i ni ymgymryd â'n hymholiadau mor gyflym a thrwyadl â phosibl."

Fe wnaethom dderbyn atgyfeiriad gan Heddlu Gwent ar 15 Tachwedd ynghylch cwyn y teulu ac fe wnaethom dderbyn tri atgyfeiriad am ymddygiad, ar 18, 19 a 23 Tachwedd, yn ymwneud â sawl swyddog sy'n gwasanaethu a chyn-swyddogion a gafodd eu hadnabod yn rhan o'r negeseuon ffôn.

Tags
  • Heddlu Gwent
  • Gwahaniaethu