Diswyddo swyddog Heddlu Gogledd Cymru yn ddirybudd ar ôl profi camymddwyn difrifol

Published: 06 Apr 2023
News

Mae swyddog Heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei ddiswyddo, ar ôl i gamymddwyn difrifol gael ei ganfod mewn gwrandawiad disgyblu, yn dilyn ymchwiliad dan gyfarwyddyd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Dechreuodd yr ymchwiliad, a gynhaliwyd gan Heddlu Gogledd Cymru dan ein cyfarwyddyd a’n rheolaeth, i honiadau yn ymwneud â PC Gavin Griffiths ym mis Gorffennaf 2022, yn dilyn atgyfeiriad gan yr heddlu ynghylch ymddygiad y swyddog.

Honnwyd bod PC Griffiths wedi cynnal cysylltiad rhwng Gorffennaf 2021 ac Ebrill 2022 â pherson yr oedd wedi gweld gwybodaeth a chudd-wybodaeth ar systemau Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas ag ef a’i fod wedi parhau i wneud hynny, ar un achlysur, heb ddiben plismona, ac wedi methu i gofrestru 'cysylltiad hysbysadwy' ag Adran Safonau Proffesiynol yr heddlu.

Honnwyd hefyd, ar ddau achlysur, ym mis Hydref 2021 ac Ebrill 2022, fod PC Griffiths wedi methu â chofnodi a storio arddangosion yn gywir, yr amheuwyd eu bod yn gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B, yn unol â pholisi’r heddlu a rhoddodd fanylion anghywir am eu gwaredu unwaith yn anonest.

Ar ddiwedd yr ymchwiliad ym mis Ionawr 2023 daethom i’r casgliad bod gan PC Griffiths achos i’w ateb am gamymddwyn difrifol a threfnodd Heddlu Gogledd Cymru i’r achos disgyblu gael ei gynnal.

Mewn gwrandawiad a gynhaliwyd gan yr heddlu o flaen Cadeirydd annibynnol â chymhwyster cyfreithiol a ddaeth i ben ar ddydd Mercher 22 o Fawrth, penderfynwyd bod y swyddog wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol gan gynnwys uniondeb, a dyletswyddau a chyfrifoldebau, ac y dylid ei ddiswyddo.

Er na chanfu’r panel unrhyw dystiolaeth bod unrhyw wybodaeth a welwyd wedi’i ddefnyddio at unrhyw ddiben amhriodol, penderfynwyd bod camymddwyn difrifol wedi’i brofi ar gyfer swyddogion sy’n edrych ar systemau cudd-wybodaeth dros gyfnod o fisoedd heb ddiben plismona. Profwyd lefel is o gamymddwyn hefyd yn erbyn PC Griffiths am beidio â rheoli storio ac arddangos eiddo a atafaelwyd yn iawn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwiliadau Mawr yr IOPC Steve Noonan: “Mae swyddogion yr heddlu’n deall bod y cyhoedd yn gywir yn disgwyl i’r safonau ymddygiad uchaf gael eu cynnal.

“Dylai swyddogion ymddwyn yn onest bob amser ac osgoi gosod eu hunain mewn unrhyw sefyllfaoedd lle gallai eu safbwynt gael ei beryglu. Dylai'r swyddog hwn fod wedi hysbysu ei heddlu o'i gysylltiad ag unigolyn a allai fod wedi arwain at wrthdaro buddiannau. Roedd gan ymddygiad PC Griffiths y potensial i ddwyn anfri ar wasanaeth yr heddlu a thanseilio hyder y cyhoedd mewn plismona.”

Bydd PC Griffiths yn cael ei roi ar restr wahardd yr heddlu.

Tags
  • Heddlu Gogledd Cymru