Cyn-swyddog Heddlu Northumbria yn euog o ymosodiad rhywiol
Mae cyn-swyddog o Heddlu Northumbria wedi derbyn dedfryd carchar wedi’i ohirio am ymosod yn rhywiol ar fenyw yn dilyn ymchwiliad a gyfarwyddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Dechreuodd yr ymchwiliad, a gynhaliwyd gan Heddlu Durham ac Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Northumbria o dan gyfarwyddyd a rheolaeth IOPC, ar ôl i ddwy fenyw roi gwybod eu bod wedi cael eu cyffwrdd yn amhriodol gan PC Daniel Hedley.
Cafodd ei arestio ym mis Mawrth 2023, ac fe atgyfeiriwyd y mater at IOPC. Gwnaethom gyfarwyddo ymchwiliad y llu heddlu, ac ar ôl adolygu adroddiad yr ymchwilydd, gwnaethom awdurdodi atgyfeiriad at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS), a gyhoeddodd gyhuddiadau yn ystod Haf 2024.
Yn dilyn achos llys yn Llys y Goron Teesside, cafodd ei ffeindio’n euog ym mis Gorffennaf o un cyhuddiad o ymosodiad rhywiol, yn ymwneud â digwyddiad ym mis Ionawr 2023 pan gyffyrddodd ben-ôl menyw. Cafodd ei ffeindio yn ddieuog o dri chyhuddiad pellach o ymosodiad rhywiol.
Heddiw (dydd Llun 21 Medi) dedfrydwyd y cyn-Gwnstabl Hedley i 32 wythnos yn y carchar, gyda’r ddedfryd wedi’i ohirio am 18 mis. Mae hefyd yn gorfod cwblhau cwrs adsefydlu ac fe gafodd orchymyn atal am gyfnod o 10 mlynedd. Yn ogystal, cafodd ei orchymyn i gyflawni 120 awr o waith di-dâl ac fe fydd o dan gyrffyw o dri mis yn ogystal â gofyniad hysbysu troseddwr rhyw am 10 mlynedd.
Dywedodd Emily Barry, Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC:
“Camddefnyddiodd y cyn-Gwnstabl Hedley ei safle trwy gyffwrdd â menyw yn amhriodol, a dywedodd hithau ei bod wedi teimlo dan fygythiad oherwydd ei rôl fel swyddog heddlu.
“Roedd ei ymddygiad yn gwbl annerbyniol ac yn frad llwyr ar ei lw i weithredu gydag uniondeb ac atal troseddau.
“Diolch i ddewrder y rhai a ddaeth ymlaen, ac i weithredu cyflym Heddlu Northumbria a Heddlu Durham unwaith yr oeddent yn ymwybodol o’r pryderon ynghylch ei ymddygiad, mae bellach wedi’i ddwyn i gyfrif. Mae hyn yn anfon neges glir y bydd adroddiadau o’r fath yn cael eu trin o ddifrif ac y bydd swyddogion sy’n camddefnyddio eu swydd yn cael eu trin yn gadarn.”
Ar ddiwedd yr ymchwiliad, daethom i’r casgliad bod gan y cyn-Gwnstabl Hedley achos i’w ateb am gamymddwyn difrifol mewn perthynas â honiadau o gysylltiad amhriodol neu sylwadau amhriodol tuag at dri unigolyn a roddodd dystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad. Mater i Heddlu Northumbria fydd trefnu’r achosion disgyblu erbyn hyn.
Roedd PC Hedley eisoes wedi’i ddiswyddo o’r llu yn 2024 ar ôl pledio’n euog i feddu ar arf ymosodol, mater nad oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad hwn.