Cyn-swyddog Heddlu Gwent wedi ei ddedfrydu am gamymddygiad mewn swydd gyhoeddus

Published: 20 Dec 2021
News

Mae cyn-swyddog Heddlu Gwent wedi’i garcharu am gamymddygiad mewn swydd gyhoeddus, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Plediodd Cwnstabl yr Heddlu Paul Chadwick, 51, yn euog i ddau gyhuddiad mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Hydref. Yn Llys y Goron yng Nghaerdydd heddiw (dydd Llun), cafodd ei ddedfrydu gan farnwr i 18 mis o garchar.

Cyfaddefodd iddo gael perthnasau amhriodol am gyfnodau yn ystod 2020, tra’r oedd yn gwasanaethu fel swyddog, gyda dwy fenyw y cyfarfu â nhw fel rhan o’i ddyletswyddau, y naill rhwng mis Ionawr a mis Ebrill, a’r llall rhwng dyddiadau ym mis Mai y llynedd.

Cynhaliodd yr IOPC ddau ymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad gan Heddlu Gwent ym mis Mai y llynedd ac atgyfeiriad arall ym mis Tachwedd 2020. Ar ddiwedd ein hymchwiliadau, gwnaethom atgyfeirio ffeil dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron a awdurdododd y cyhuddiadau.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: “Mae achosion lle mae swyddogion yn camddefnyddio eu swydd er dibenion rhywiol ymhlith yr enghreifftiau mwyaf difrifol o lygredd yr ydym yn eu hymchwilio ac mae gan hynny’r gallu gwirioneddol i effeithio ar hyder y cyhoedd yn yr heddlu.

“Er siom, dewisodd Paul Chadwick camddefnyddio’r swydd o ymddiriedaeth a oedd ganddo ac mae ei weithredoedd wedi effeithio’n ddifrifol ar ddwy fenyw, gydag un ohonynt mewn sefyllfa fregus iawn.

“Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn anfon neges glir i unrhyw swyddog sy’n camymddwyn yn y fath fodd, y byddant yn wynebu goblygiadau difrifol ac yn cael eu dwyn i gyfrif.”

Ymddeolodd Mr Chadwick o Heddlu Gwent fis Mehefin 2021. Cyfrifoldeb yr heddlu yw hi nawr i ddechrau’r gweithdrefnau disgyblu yn erbyn y cyn swyddog.

Hoffem bwysleisio i swyddogion yr heddlu a staff, cyfredol a rhai blaenorol, fod gennym linell chwythu chwiban ar gyfer swyddogion yr heddlu a staff i adrodd pryderon ynghylch camymddwyn lle maent o’r farn bod trosedd wedi’i chyflawni, neu dystiolaeth o ymddygiad a fyddai’n cyfiawnhau gweithdrefnau disgyblu.

Gall y cyhoedd gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cwyn am heddlu ar ein gwefan www.policeconduct.gov.uk.

Tags
  • Heddlu Gwent
  • Llygredd a cham-drin pŵer