Byddai cyn-dditectif y Met wedi cael ei ddiswyddo dros gofnodion gwasanaeth ffug

Published: 18 Jun 2026
News

Byddai cyn-dditectif o Heddlu’r Met, a gofnododd dro ar ôl tro fod swyddog arall ar ddyletswydd er ei fod yn gwybod ei fod e dramor, wedi cael ei ddiswyddo o’r heddlu pe na bai e eisoes wedi ymddiswyddo.

Yr wythnos hon, yn dilyn gwrandawiad camymddwyn difrifol dau ddiwrnod, ffeindiodd panel fod ymddygiad y cyn Dditectif Sarjant (DS) Gary Waite wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol y gwasanaeth plismona o ran gonestrwydd ac uniondeb, ymddygiad sy’n dwyn anfri, a dyletswyddau a chyfrifoldebau. Dilynodd y gwrandawiad ymchwiliad a gyfarwyddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Dyma ail ganlyniad yr ymchwiliad, a gynhaliwyd gan Uned Gwrth-Lygredd y Met dan gyfarwyddyd a rheolaeth IOPC, yn dilyn diswyddiad DC Pervaz Malik yn gynharach eleni am drefnu gweithwyr rhyw iddo’i hun ac eraill tra oedd dramor rhwng 2016 a 2023, yn ogystal â phrynu, defnyddio a hwyluso cyflenwi cyffuriau Dosbarth A.

Ffeindiodd yr ymchwiliad fod y cyn DS Gary Waite wedi cynrychioli DC Malik yn anonest fel pe bai ar ddyletswydd o leiaf naw gwaith pan oedd, mewn gwirionedd, dramor, a bod negeseuon WhatsApp yn profi bod y cyn-ringyll yn gwybod mai dyna oedd y sefyllfa.

Fel rheolwr llinell i DC Malik, roedd gan DS Waite y gallu i’w gofnodi fel pe bai ar ddyletswydd drwy system cynllunio dyletswyddau a rheoli adnoddau dynol y llu. Mewn datganiad a baratowyd, honnodd DS Waite ei fod, drwy wneud y cofnodion hyn, yn ceisio cywiro goramser di-gofnod a di-dâl a oedd, yn ôl pob sôn, wedi’i weithio gan DC Malik.

Ymddiswyddodd Mr Waite o’r heddlu ym mis Mawrth 2026 cyn y gwrandawiad camymddwyn difrifol.

Yn dilyn y gwrandawiad ddydd Llun 15 a dydd Mawrth 16 Mehefin, penderfynodd y Cadeirydd y byddai’r cyn DS Waite wedi cael ei ddiswyddo heb rybudd pe bai e’n dal i wasanaethu, ac fe fydd e bellach yn cael ei gynnwys ar restr waharddedig y Coleg Plismona.

Dywedodd Amanda Rowe, Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC: “Camddefnyddiodd DS Waite ei safle a’i awdurdod fel goruchwyliwr i gam-gynrychioli DC Malik, a oedd yn ffrind agos iddo, gan ei gofnodi e ar ac oddi ar ddyletswydd sawl tro, er ei fod yn gwybod ei fod e dramor.

“Rhoddodd celwyddau DS Waite amser i DC Malik i ffwrdd o’r gwaith ar gost y Met ac er anfantais sylweddol i aelodau eraill o’i dîm.

“Mae’r ddau swyddog bellach wedi cael eu dal yn atebol am eu gweithredoedd ac ni fyddant byth yn gweithio mewn plismona eto, yn dilyn yr ymchwiliad manwl a chymhleth hwn.”

Cafodd DC Malik ei arestio ym mis Awst 2023 ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig, a gwnaethpwyd atgyfeiriad at Wasanaeth Erlyn y Goron ym mis Rhagfyr 2024, a benderfynodd beidio â chymryd camau pellach.

Yn dilyn gwrandawiad disgyblu undydd ym mis Mawrth 2026, ffeindiodd panel fod DC Malik wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol o ran ymddygiad sy’n dwyn anfri, gonestrwydd ac uniondeb, a ffitrwydd i gyflawni dyletswyddau. Cafodd ei ddiswyddo heb rybudd a’i gynnwys ar restr waharddedig plismona.

Cafodd DS Waite ei arestio ym mis Mawrth 2024 ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ond ni gymerwyd unrhyw gamau pellach.

Tags
  • Metropolitan Police Service
  • Llygredd a cham-drin pŵer