Arbenigwyr trais yn erbyn menywod a merched i gefnogi ymchwiliadau IOPC
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi sefydlu rhwydwaith o arbenigwyr i gryfhau’r gefnogaeth i’w ymchwiliadau sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched (VAWG).
Bydd y Rhwydwaith Arbenigedd Pwnc VAWG, sy’n cynnwys naw aelod, yn gweithio ochr yn ochr â rheolwyr gwaith achos ac ymchwilwyr IOPC ar achosion sy’n cynnwys cam-drin domestig, ymddygiad gorfodol a rheolaethol, stelcian, troseddau rhywiol, a chamddefnyddio swyddi at ddibenion rhywiol (APSP) ymhlith yr heddlu.
Mae llawer o’r cynghorwyr yn dod o gefndiroedd unedau diogelu’r cyhoedd, â phrofiad o weithio gyda grwpiau cymorth VAWG neu gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant VAWG.
Dywedodd Emily Barry, Cyfarwyddwr Ymgysylltu’r IOPC ac arweinydd VAWG, y bydd y cynghorwyr yn chwarae rhan allweddol mewn rhai o’n hymchwiliadau a’n hadolygiadau mwyaf cymhleth a sensitif.
Ychwanegodd: “Mae trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i fod yn flaenoriaeth genedlaethol i blismona. Mae ymateb yr heddlu i achosion VAWG, a’r ffordd y caiff unrhyw gwynion neu faterion ymddygiad cysylltiedig eu trin, yn effeithio ar ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.
“Bydd aelodau’r Rhwydwaith VAWG yn darparu cymorth, arweiniad a chyngor arbenigol drwy gydol ein ymchwiliadau sy’n ymwneud â VAWG. Gallai’r rhain gynnwys ymchwiliadau i’r modd y mae swyddogion heddlu wedi trin achosion VAWG, neu achosion lle mae swyddogion neu aelodau staff yr heddlu yn cael eu cyhuddo o droseddau VAWG.
“Byddant yn cymryd rhan o’r camau cychwynnol ymlaen, gan gyfrannu at strategaethau ymchwilio, cynlluniau cyfweld a llunio adroddiadau terfynol, er mwyn sicrhau bod pob agwedd sy’n ymwneud â VAWG yn cael ei nodi a’i ystyried yn gywir.
“Bydd y cynghorwyr hefyd yn adeiladu ar ein ymgysylltiad presennol â rhanddeiliaid arbenigol sy’n llywio ein dull gweithredu ac yn rhoi adborth gwerthfawr ar gynhyrchion, mentrau a mewnwelediadau VAWG, gan gynnwys ein ymgysylltiad â gweinidogion a’r Swyddfa Gartref.
“Bydd eu profiad a’u gwybodaeth yn bwysig i sicrhau ein bod yn cyrraedd canlyniadau cadarn, gwybodus a chyson, yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i ddioddefwyr, ac yn cefnogi ein gwaith i helpu plismona i wella ei ymateb i VAWG.”
Bydd cynghorwyr VAWG yn gweithio’n agos gyda Rheolwyr Ymgysylltu â Goroeswyr (SEMs) IOPC, sy’n cefnogi dioddefwyr mewn achosion VAWG drwy’r broses ymchwilio ac unrhyw achosion troseddol dilynol.
“Mae ein Rheolwyr Ymgysylltu â Goroeswyr yn chwarae rôl bwysig wrth ymgysylltu â dioddefwyr-goroeswyr a allai fod yn agored i niwed. Maent yn cynnig cymorth i bobl ddatgelu ac adrodd troseddau, yn darparu cymorth llesiant, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am achosion ac yn hebrwng dioddefwyr-goroeswyr yn ystod cyfweliadau neu mewn llys.
“Ar y cyd â’n cynghorwyr VAWG newydd, maent hefyd yn helpu i lywio ein dull gweithredu mewn achosion sensitif ac yn sicrhau bod ein ymagwedd yn seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, er mwyn lleihau’r risg y bydd dioddefwyr-goroeswyr yn cael eu trawmateiddio eto yn ystod ein ymchwiliadau i honiadau.
“Byddant hefyd yn cefnogi ac yn uwchsgilio ein staff ymchwilio gyda’r wybodaeth a’r arbenigedd perthnasol sydd eu hangen i ymchwilio i agweddau arbenigol ar VAWG, ac i sicrhau cysondeb ar draws ein gwaith.”