Cwestiynau cyffredin
Dyma'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn derbyn am y broses ddethol.Ceisio am rôl gyda ni
Ewch i'n porth recriwtio i weld y rolau diweddaraf sydd ar gael gennym.
Mae pob sefydliad angen swyddogaethau cymorth gwych er mwyn cefnogi eu gwaith. Mae gennym ystod eang o wasanaethau corfforaethol a rolau cynorthwyo sy'n cynnig her a phwrpas go iawn. Beth bynnag yw'r rôl, byddwch yn rhan annatod o'n annibyniaeth ac yn sicrhau bod pawb yn gallu cael ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu.
Rydym yn gwasanaethu pobl o bob cefndir ac yn anelu at adlewyrchu'r amrywiaeth hon yn ein sefydliad ein hunain. Dydyn ni ddim yn edrych am bobl o gefndir plismona neu gyfreithiol yn unig, bydd pob cefndir yn cael ei ystyried ar gyfer ein rolau sydd ddim yn rai ymchwilio. Ein meysydd eraill yw:
Strategaeth, Ymgysylltu a Chyfathrebu - Strategaeth, Polisi ac Effaith, Cyfathrebiadau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth, Gwybodaeth Cyfreithiol, Gwella Ansawdd a Gwasanaethau, Ymchwil
Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol - Cyllid, Pobl a Newid, Technoleg Digidol a Data, Perfformiad, Caffael, Risg ac Archwilio, Cyfleusterau
Trawsnewid - yn gyfrifol am gyflawni ein rhaglen drawsnewid i sicrhau ein bod yn dewis y newidiadau cywir a fydd yn cyflawni ein uchelgeisiau
Swyddfa'r Cyfarwyddwr Cyffredinol – yn darparu cyngor a chefnogaeth gywir ac amserol i'r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar draws ehangder eu cyfrifoldebau, gan weithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol
Mae ein ffurflen gais yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol a gallai hefyd ofyn am:
- Enghreifftiau o waith
- cwestiynau ymddygiadol
- cwestiynau profiad
- Cwestiynau technegol
- cwestiynau sy'n seiliedig ar werthoedd
- profion seicometrig
- tasg i'w chwblhau
- eich CV
- datganiad o addasrwydd
Rydym yn cynnal sgrinio dienw, felly dim ond eich atebion i'r cwestiynau a'r dogfennau ategol sy'n benodol i'r swydd fydd yn cael eu gweld gan y panel rhestr fer, ni fyddant yn gweld eich gwybodaeth bersonol. Rydym yn gwneud hyn i sicrhau bod penderfyniadau cael eu gwneud yn deg a heb ragfarn.
Rydym yn defnyddio’r fframwaith recriwtio Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil pan fyddwn yn asesu pobl ar gyfer swyddi.
Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth a chynhwysiant a dyna pam rydym yn monitro effaith ein polisïau a'n harferion ar ystod eang o nodweddion gwarchodedig gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw (rhywedd), oedran, crefydd, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol ac anabledd. Mae hyn yn ein galluogi i addasu a gwella ein prosesau lle yn ôl yr angen. Mae'r holl wybodaeth yn cael ei gadw'n gyfrinachol ac ni gaiff ei ddefnyddio fel unrhyw ran o'r broses ddethol oni bai bod gweithredu cadarnhaol yn cael ei ddefnyddio. Os nad ydych am ddarparu'r math hwn o wybodaeth, gallwch dicio'r opsiwn 'mae'n well gennyf beidio ag ateb'.
Mae ein rolau Ymchwilydd Arweiniol ac Ymchwilydd yn cynnwys llawer o deithio felly mae'n rhaid i chi gael trwydded gyrru llawn. Byddwn yn ystyried addasiadau rhesymol i'r rhai a allai fod ag anabledd sy'n eu hatal rhag dal trwydded gyrru llawn. Er bod angen trwydded, gallwn ddarparu ceir fflyd, felly nid oes rhaid i chi fod yn berchen ar gerbyd. Gallwch ddefnyddio eich cerbyd eich hun ar yr amod bod gennych yr yswiriant perthnasol i wneud hynny. Rhaid i'n Ymchwilwyr dan Hyfforddiant feddu ar drwydded yrru lawn neu gael un o fewn 12 mis o ddechrau'r rôl.
Ychydig iawn o'n swyddi gwag eraill sy'n gofyn i chi feddu ar drwydded yrru lawn. Os oes angen, bydd hyn yn cael ei nodi yn yr hysbyseb swydd neu'r disgrifiad swydd.
Mae'n annhebygol y byddai angen gradd arnoch i fod yn llwyddiannus yn ein rolau. Bydd y profiad, yr ymddygiad a'r rhinweddau hanfodol a dymunol yn cael eu hamlygu o fewn y disgrifiad swydd a’r manyleb person. Efallai bydd angen cymwysterau neu aelodaeth proffesiynol ar gyfer rhai rolau.
Mae eich dyddiad cychwyn yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae eich gwiriadau cyn-gyflogaeth yn cael eu cwblhau. Rydym yn cynnal sawl gwiriad o amgylch eich hanes cyflogaeth (geirdaon), gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), iechyd, ac ymddygiad gwaith. Byddwn yn eich hysbysu am gynnydd yn ystod y broses cynefino, fel eich bod chi'n gwybod beth sydd wedi'i ddychwelyd a beth sydd ar ôl. Nid yw'r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn ymddiswyddo o'u man gwaith presennol nes bod yr holl wiriadau cynefino wedi'u dychwelyd yn foddhaol. Ar y cam hwn, byddwn wedyn yn cytuno ar ddyddiad cychwyn addas gyda chi a byddwn yn ystyried eich cyfnod rhybudd.
Y broses ddethol
Bydd yr holl asesiadau yn unol â'r fframwaith Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn argymell eich bod yn adolygu'r fframwaith cyn eich asesiad. Rydym yn ceisio rhoi tua saith diwrnod o rybudd i chi pan fyddwch yn cael eich gwahodd i fynychu cyfweliad neu ganolfan asesu.
Os byddwch yn pasio'r cam ymgeisio cychwynnol ar gyfer rôl Ymchwilydd neu Ymchwilydd Arweiniol, efallai byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad technegol i ddilyn i fyny ar eich atebion cais. Nid ydym fel arfer yn cynnal cyfweliadau cam technegol ar gyfer Ymchwilwyr dan Hyfforddiant.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu canolfan asesu a all gynnwys cyfweliad ffurfiol, asesiad chwarae rôl a/neu ymarferion ysgrifenedig.
Pan fyddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad, byddwch yn cael gwybod pa ddulliau asesu fydd yn rhan o'ch proses ddethol.
Bydd yr holl asesiadau yn unol â'r fframwaith Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn argymell eich bod yn adolygu'r fframwaith cyn eich asesiad. Rydym yn ceisio rhoi tua saith diwrnod o rybudd i chi pan fyddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad neu ganolfan asesu.
Os byddwch yn pasio'r cam ymgeisio cychwynnol, byddwch fel arfer yn cael eich gwahodd i gam un a fydd yn cynnwys cyfweliad ffurfiol a gall hefyd gynnwys tasgau ychwanegol fel cyflwyniad, ymarfer ysgrifenedig, chwarae rôl, neu dasg blaenoriaethu. Weithiau gall mwy nag un cam dethol fod yn gysylltiedig, ond rydym fel arfer yn gwneud penderfyniad ar ôl cam un.
Rydym yn defnyddio fframwaith recriwtio Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil pan fyddwn yn asesu pobl ar gyfer swyddi. Mae'n ein helpu i ddenu a chadw pobl o dalent a phrofiad o amrywiaeth o sectorau a phob cefndir. Mae hyn yn golygu ar gyfer pob rôl rydyn ni'n ei hysbysebu, rydym yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn bod yn llwyddiannus. Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau posib i ni ddod o hyd i'r person iawn ar gyfer y swydd, yn gyrru perfformiad i fyny ac yn gwella ein amrywiaeth a'n cynhwysiant.
Mae'r fframwaith yn symud recriwtio i ffwrdd o system asesu sydd dim ond yn seiliedig ar gymhwysedd. Mae'n fframwaith mwy hyblyg sy'n eich asesu yn erbyn ystod o elfennau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dethol.
Nid yw'r holl elfennau yn berthnasol i bob rôl, a byddant yn amrywio yn dibynnu ar y proffesiwn, lefel a math o rôl. Dylech ddarllen y disgrifiad swydd yn ofalus i weld pa elfennau sydd eu hangen ar gyfer y swydd benodol rydych chi'n ceisio amdano. Mae yna ganllawiau ar wahân i bob un o'r elfennau, a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am beth yw a sut gallwch ddangos y gofynion penodol.
Fel sefydliad gweithio hybrid, mae'r rhan fwyaf o'n asesiadau yn cael eu cynnal yn rhithiol gan ddefnyddio Microsoft Teams. Efallai y bydd achlysuron lle byddwn yn gofyn i chi gwblhau eich cyfweliad neu ymweld â chanolfan asesu yn bersonol.
Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio Microsoft Teams, anfonwch e-bost at [email protected] cyn eich asesiad.
Byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi am eich cynnydd trwy'r broses. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn gallu dewis slot amser sydd ar gael trwy'r porth cais.
Byddem yn gwerthfawrogi cymaint o rybudd â phosib os nad ydych yn gallu gwneud yr asesiad arfaethedig. Pan yn bosib, byddwn yn ceisio cynnig slot amser arall i chi. Anfonwch e-bost atom ar [email protected] cyn gynted ag y byddwch chi'n gwybod.
Anaml y cawn anawsterau technegol gyda'n system archebu, ond os ydych chi'n profi problem, anfonwch e-bost atom ar [email protected]
Rydym yn galluogi llawer o addasiadau rhesymol yn ystod y broses ddethol i'r rhai sydd eu hangen. Rydym yn deall bod amgylchiadau pawb yn wahanol, ac rydym am wneud yn siŵr eich bod chi'n teimlo'n gyfforddus ac yn cael eich cefnogi trwy gydol y broses. Os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i'ch helpu i gymryd rhan yn llawn trwy gynnig addasiadau rhesymol, rhowch wybod i ni.
Gall addasiadau rhesymol fod yn amser ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer asesu, gan ddyrannu slot i chi ar adeg benodol o'r dydd, darparu cwestiynau mewn fformat ysgrifenedig yn ogystal â'u clywed ar lafar yn eich asesiad neu sicrhau bod dogfennau ar gael mewn fformat gwahanol. Byddwn yn gweithio gyda chi i nodi addasiad addas i sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi trwy gydol y broses ddethol.
Gallwch ddod o hyd i fwy yn ein canllawiau addasiadau rhesymol neu anfonwch e-bost at [email protected] ac mi fyddwn yn fwy na pharod i drafod hyn gyda chi.
Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad ac yn rhoi cyfle i chi gael adborth llafar ar ôl cyfweliad. Ar gyfer y rhan fwyaf o'n rolau gallwn ddarparu canlyniadau o fewn tua wythnos i'ch asesiad terfynol. Ar gyfer ymgyrchoedd recriwtio mawr fel Person dan Hyfforddiant ac Ymchwilydd Arweiniol, efallai bydd yn cymryd ychydig wythnosau i'ch hysbysu am y canlyniad gan fod angen i ni gwblhau'r holl asesiadau yn gyntaf. Fel arfer, byddwn yn rhoi gwybod i chi am amserlenni canlyniadau yn eich cyfweliad. Os yw'n debygol o gymryd mwy o amser, byddwn yn e-bostio i roi gwybod i chi.
Rydym yn cynnig adborth llafar ar ôl i chi fynychu asesiad. Gellir trefnu hyn trwy e-bostio[email protected]. Byddwn wedyn yn sicrhau bod amser addas yn cael ei drefnu i drafod eich adborth gyda chi. Yn anffodus, oherwydd y nifer uchel iawn o geisiadau rydym yn derbyn, ni allwn gynnig adborth yn gynharach yn ein proses recriwtio.
Os ydych chi'n aflwyddiannus am rôl, gallwch wneud cais am rolau eraill ar unrhyw adeg. Efallai bydd achlysuron lle rydym yn hysbysebu swydd wag rydych eisoes wedi'ch asesu ar ei gyfer. Efallai na fyddwn wedi gallu penodi ymgeisydd addas yn y rownd gyntaf o asesiadau ac yn y sefyllfa hon rydym yn gofyn i chi beidio ag ailymgeisio. Byddwn yn gwneud hyn yn glir ar yr hysbyseb os mai dyma’r sefyllfa.
Mae eich dyddiad cychwyn yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae eich gwiriadau cyn-gyflogaeth yn cael eu cwblhau. Rydym yn cynnal sawl gwiriad o amgylch eich hanes cyflogaeth (geirdaon), gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), iechyd, ac ymddygiad gwaith. Byddwn yn eich hysbysu am gynnydd yn ystod y broses cynefino, fel eich bod chi'n gwybod beth sydd wedi'i ddychwelyd a beth sydd ar ôl. Nid yw'r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn ymddiswyddo o'u man gwaith presennol nes bod yr holl wiriadau cynefino wedi'u dychwelyd yn foddhaol. Ar y cam hwn, byddwn wedyn yn cytuno ar ddyddiad cychwyn addas gyda chi a byddwn yn ystyried eich cyfnod rhybudd.
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol rydym yn gobeithio byddant yn helpu gyda'ch cais a'ch asesiad:
- Byddwch yn chi'ch hun. Rydym yn eich annog i ddod â'ch hunan dilys i'r broses recriwtio. Nid yn unig ydyn ni eisiau gwybod am eich profiad a'ch sgiliau, ond rydym am ddeall sut y byddwch chi'n ddewis gwych i ni.
- Gweiddwch am eich cyflawniadau a'r hyn a allai eich gwahaniaethu rhag ymgeiswyr eraill.
- Byddwch yn benodol, nid yn gyffredinol. Yn hytrach na dweud rhywbeth fel 'Rwy'n arweinydd da', efallai y byddai'n well dweud, 'Rwy'n arweinydd da gyda phrofiad o symud tîm sy'n tanberfformio i dîm perfformiad uchel trwy wneud...'.
- Atebion i gwestiynau cais swydd-benodol yw'r unig rannau o'ch cais a fydd yn cael eu gweld gan y panel rhestr fer. Rydym yn ymgymryd â rhestr fer ddienw, felly yn eich atebion mae'n bwysig eich bod yn darparu digon o fanylion i ddangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl.
- Os ydych chi'n cyflwyno CV, ceisiwch ei gadw i ddwy ochr A4. Canolbwyntiwch ar eich sgiliau, a'ch profiad a'ch cyflawniadau mwyaf diweddar a/neu berthnasol.
- Adolygwch y Geiriadur Ymddygiadau a Chryfderau Gwasanaeth Sifil fel rhan o'ch paratoad.
- Os yw cwestiwn yn gofyn i chi ddarparu enghraifft, ystyriwch ddefnyddio'r Model STAR. Efallai bydd yn eich helpu i gyflwyno'ch ateb mewn ffordd fwy strwythuredig.
- Mae manylion yn allweddol, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y panel yn deall beth rydych chi'n ei olygu os nad ydych chi'n ei ddweud. Nid yw'r panel yn eich adnabod chi a sut rydych chi'n gweithio felly gall ond eich asesu yn seiliedig ar yr atebion rydych chi'n eu darparu. Efallai nad yw'r panel asesu wedi gweld yr atebion a roddwyd gennych yn y cam ymgeisio. Felly, efallai yr hoffech ailadrodd rhywfaint o'r wybodaeth hon os yw'n berthnasol yn y cam asesu.
- Cadwch eich nodiadau yn fyr. Gallwch gymryd nodiadau i'ch cyfweliad gyda chi os ydych chi'n teimlo y bydd yn helpu. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod y nodiadau hyn yn fyr a byddant yn eich helpu yn hytrach na thynnu eich sylw. Mae cadw'ch nodiadau yn fyr yn eich atal rhag datgysylltu â'r panel ac edrych fel eich bod chi'n darllen o sgript. Mae'n well pan fydd eich ateb yn naturiol.
- Cymryd nodiadau. Os ydych chi'n teimlo y bydd yn eich helpu, gallwch nodi'r cwestiwn neu'r geiriau allweddol ar bapur yn eich cyfweliad. Gall hyn eich helpu i aros ar y trywydd iawn fel eich bod chi'n ateb y cwestiwn yn llawn. Gallwch bob amser ofyn i'r cwestiwn gael ei ailadrodd hefyd.
- Disgwyliwch gael cwestiynau treiddgar yn eich cyfweliad. Nid yw hyn yn unrhyw beth i chi fod yn bryderus amdano, efallai y byddwn am ddeall eich ymateb yn well.
- Peidiwch â theimlo fel bod angen i chi ateb y cwestiwn ar unwaith yn y cyfweliad. Cymerwch eiliad ar ôl i'r cwestiwn gael ei ofyn i'w dreulio. Rydych chi'n fwy tebygol o roi'r ateb mwyaf perthnasol os ydych chi'n cymryd eiliad i feddwl cyn ateb. Peidiwch â rhuthro i roi eich ateb yn y cam asesu.
- Meddyliwch am yr hyn rydych chi eisiau ei wybod gennym ni. Byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i ni yn eich cyfweliad hefyd.
Gweithio i ni
Mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein cenhadaeth ac yn nodi sut y dylem ymddwyn. Ewch i Beth rydyn ni'n ei wneud i ddarganfod mwy.
Nid yw IOPC yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisâu'r DU, felly bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'ch Hawl i Weithio yn y DU os ydym yn cynnig rôl i chi. Bydd gofyn i chi ddarparu sawl dogfen er mwyn gallu profi hawl i weithio yn y DU ac at ddibenion cael unrhyw gliriadau angenrheidiol.
Mae'r Gofynion Adnabod IOPC yn manylu ar y dogfennau sydd eu hangen arnom. Bydd gwiriadau eraill fel geirdaon, pensiwn a'ch iechyd yn cael eu cynnal ar ôl i gynnig amodol gael ei wneud.
Oherwydd natur ein gwaith mae nifer o rolau a allai fod yn agored i ddeunydd trallodus. Gall y rhain fod yn rolau o fewn ymchwiliadau, gwaith achos, diogelu data, uned asesu, pobl, canolfan gyswllt cwsmeriaid ac eraill. Wrth gyflawni'r mathau hyn o rolau, efallai y byddwch yn cael amlygiad dro ar ôl tro i ddeunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith ac o fod yn drawmatig a heriol. Mae enghreifftiau o'r mathau o ddeunydd y gallech ddod ar eu traws yn cynnwys: golygfeydd marwolaeth treisgar, post mortems, cam-drin plant yn rhywiol, trais domestig, troseddau rhywiol, hunanladdiadau ar waith – nid yw hon yn restr gynhwysfawr.
O ystyried natur y gwaith, mae hefyd yn debygol iawn y byddwch yn cael cyswllt estynedig ag unigolion sy'n profi trallod eithafol. Rydym yn cydnabod hyn ac yn cynnig ystod o ddarpariaethau llesiant i'r holl staff, gan gynnwys cymorth cyfoedion TRiM (Rheoli Risg Trawma), ymgynghorydd llesiant pwrpasol, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim. Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gael mynediad actif at ac ymgysylltu â'r cymorth sydd ar gael.