Cyflwyno adolygiad

Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn anhapus â chanlyniad eich cwyn neu â sut yr ymdriniwyd â'ch cwyn.

Dylai eich llythyr canlyniad gan wasanaeth yr heddlu neu sefydliad arall a ymdriniodd â'ch cwyn wreiddiol nodi'n glir pwy yw'r corff adolygu perthnasol. Dim ond os mai'r IOPC yw'r corff adolygu perthnasol y dylech lenwi'r ffurflen hon.

Ar ôl i chi gadarnhau mai ni yw'r corff adolygu cywir, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn ni'n dechrau prosesu eich adolygiad.

Wrth adolygu eich cwyn, byddwn yn cysylltu â gwasanaeth yr heddlu neu'r sefydliad y gwnaethoch gwyno amdano. Byddwn yn rhoi copi o'ch cais iddynt ac yn gofyn iddynt am unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am eich cwyn wreiddiol a'r adolygiad dilynol.

Ar ôl i ni dderbyn yr holl wybodaeth, byddwn yn asesu eich adolygiad ac yn gwneud ein penderfyniad. Noder ein bod yn edrych ar sut mae'r heddlu wedi ymdrin â'ch cwyn. Nid ydym yn ymchwilio i'ch cwyn wreiddiol.

Byddwn yn gofyn i chi roi cyfeiriad e-bost wrth lenwi’r ffurflen hon. Ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen, anfonir copi o’r ffurflen dych chi wedi’i chwblhau at y cyfeiriad e-bost dych chi wedi’i roi i ni.

Os byddai'n well gennych anfon eich adolygiad drwy e-bost neu yn ysgrifenedig, defnyddiwch y fersiwn word neu pdf o'n ffurflen adolygiadau. Fel arall, gallwch ein ffonio ni ar 0300 020 0096 (pwyswch 1 pan ofynnir i chi wneud hynny). Mae'r ffurflen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Bydd cadw eich llythyr canlyniad wrth law yn help wrth i chi lenwi'r ffurflen hon. Hefyd, ystyriwch ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu eiriolwr eich helpu i lenwi'r ffurflen os oes angen.

Hygyrchedd

(terfyn o 8700 o lythrennau, tua 1200 o eiriau)

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin

Mae'r IOPC wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae gennym reolaethau cadarn, ffisegol ac electronig ar waith i gadw'ch gwybodaeth yn ddiogel. Bydd yr wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon yn cael ei mewnbynnu i'n systemau a gellir ei hanfon at wasanaeth yr heddlu (neu sefydliad perthnasol arall) i'w phrosesu. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'ch gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r heddlu, ffoniwch ni ar 0300 020 0096. Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddwch yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd.

Amdanoch chi

Ydych chi'n gofyn am adolygiad eich hun? (Gofynnol)

I gael gwybodaeth am sut rydym yn trin gwybodaeth bersonol, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd

Eich manylion chi

Noder na allwn dderbyn atodiadau sy'n fwy nag 20mb. Ni fydd eich ffurflen yn cael ei phrosesu os byddwch chi dros y terfyn hwn. Ar ôl i'ch ffurflen gael ei chyflwyno, cewch gyfle i roi rhagor o wybodaeth i ni.

I gael gwybodaeth am sut rydym yn trin gwybodaeth bersonol, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd

Beth yw eich perthynas â'r person sy'n gofyn am yr adolygiad?
Teitl
Anfonir gohebiaeth trwy eich dull.

Eich manylion

Teitl
Anfonir gohebiaeth trwy eich dull

Gwybodaeth am wasanaeth yr heddlu neu'r sefydliad perthnasol

Gwybodaeth am eich adolygiad

Noder y gall yr wybodaeth a roddwch gael ei throsglwyddo i wasanaeth yr heddlu (neu'r sefydliad perthnasol) dan sylw.

Rhaid gwneud ceisiadau o fewn 28 diwrnod, yn dechrau gyda'r diwrnod ar ôl y dyddiad y gwnaethoch dderbyn y llythyr canlyniad gan y sefydliad y gwnaethoch eich cwyn iddo.  Yn yr achos hwn, mae'n ymddangos bod y terfyn amser hwn wedi dod i ben. Dim ond mewn achosion lle mae amgylchiadau eithriadol yn berthnasol y gall yr IOPC ystyried adolygiadau a ddaeth i law y tu hwnt i'r dyddiad hwn.  
 
Wrth benderfynu a fyddwn yn ystyried eich achos, byddwn yn ystyried:

  • unrhyw resymau dros yr oedi - bydd hyn yn cynnwys a yw'r oedi y tu allan i'ch rheolaeth, a ydych chi wedi cymryd pob cam rhesymol i gyflwyno'ch adolygiad mewn pryd ac unrhyw wendidau neu anghenion penodol eraill.
  • pwnc y gŵyn - p'un a yw'n achos arbennig o ddifrifol neu'n un a fyddai er budd y cyhoedd i'w ystyried.
  • dolenni i gwynion eraill sy'n cael eu trin neu eu hadolygu.
  • hyd yr oedi - hira'n byd y tu hwnt i'r 28 diwrnod y daw eich adolygiad i law, y lleiaf tebygol y byddwn yn gallu ei ystyried.
  • tegwch - er enghraifft, yr effaith bosibl ar yr achwynydd neu unrhyw aelodau eraill o'r cyhoedd ac ar unrhyw berson y cwynwyd amdano.

Dyma'ch cyfle chi i roi eich rhesymau a'ch tystiolaeth pam mae eich adolygiad yn cael ei gyflwyno y tu hwnt i'r terfyn amser. Nid yw cwblhau'r adran hon yn golygu y bydd eich cais yn cael ei dderbyn. Bydd eich rhesymau a'ch tystiolaeth yn cael eu hystyried, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ddylid derbyn eich cais am adolygiad. Byddwch yn cael gwybod am ein penderfyniad yn ysgrifenedig.

Sut wnaethoch chi dderbyn eich llythyr canlyniad gan wasanaeth yr heddlu?
Dywedwch wrthym pam mae eich cais yn cael ei gyflwyno y tu allan i'r terfyn amser o 28 diwrnod
Noder na allwn dderbyn atodiadau sy'n fwy nag 20mb. Ni fydd eich ffurflen yn cael ei phrosesu os byddwch chi dros y terfyn hwn. Ar ôl i'ch ffurflen gael ei chyflwyno, cewch gyfle i roi rhagor o wybodaeth i ni.

Cwynion

Dywedwch wrthym pa ran o'ch cwyn yr hoffech i ni ei hystyried. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw bwyntiau nad ydych chi wedi'u nodi yn y ffurflen hon. Ni allwn ystyried unrhyw beth nad oedd yn rhan o'ch cwyn wreiddiol.
Byddwch mor benodol â phosibl wrth ddisgrifio pwyntiau eich cwyn yr hoffech chi i ni eu hystyried. Mae rhoi manylion clir yn ein helpu ni i ddeall eich pryderon yn well ac yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y materion sydd fwyaf pwysig i chi.
Esboniwch beth hoffech chi ei weld yn digwydd mewn perthynas â'r gŵyn hon drwy'r broses adolygu. Gallwch ddewis mwy nag un opsiwn.
(terfyn o 8700 o lythrennau, tua 1200 o eiriau)
Efallai y bydd eich cwyn yn cynnwys pwyntiau amrywiol. Os felly, dewiswch y botwm plws i ychwanegu pwyntiau ychwanegol i ni eu hadolygu, nes eich bod yn fodlon eich bod wedi nodi pob pwynt rydych chi am i ni edrych arno.
Esboniwch beth hoffech chi ei weld yn digwydd mewn perthynas â'r rhan hon o'ch cwyn drwy'r broses adolygu. Gallwch ddewis mwy nag un opsiwn.
pwynt cwyn arall

Dogfennau ategol

Noder na allwn dderbyn atodiadau sy'n fwy nag 20mb. Ni fydd eich ffurflen yn cael ei phrosesu os byddwch chi dros y terfyn hwn. Ar ôl i'ch ffurflen gael ei chyflwyno, cewch gyfle i roi rhagor o wybodaeth i ni.

Gwybodaeth cydraddoldeb

Rydym am sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i ddefnyddio ac elwa ar ein gwasanaethau. 

Er mwyn ein helpu ni i sicrhau ein bod yn parhau i wneud hyn, byddai'n ein helpu ni pe gallech chi ateb y cwestiynau canlynol.

Os yw'n well gennych, gallwch chi hepgor y cwestiwn gan na fydd yn effeithio ar eich cwyn mewn unrhyw ffordd. Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn y ffurflen hon yn cael ei defnyddio gan gyrff cyhoeddus sy'n ymwneud â system gwynion yr heddlu, gan gynnwys yr heddlu a'r IOPC. 

Gallwch ddysgu sut y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio yn yr hysbysiadau preifatrwydd ar wefan pob sefydliad.

Rhywedd
Cyfeiriadedd rhywiol
A oes gennych anabledd?
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd fel 'amhariad corfforol neu feddyliol sydd ag effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd’.
Ethnigrwydd
Cred/ffydd grefyddol

Adborth

Cadarnhau a chwblhau

Drwy glicio ar y botwm 'Cyflwyno' isod, rydych chi'n cadarnhau bod yr wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi yn wir ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth.

Gallwch ddysgu sut y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio drwy ddarllen ein polisi preifatrwydd, a thrwy gyrchu gwefannau'r sefydliadau eraill dan sylw.