Ein Panel Ieuenctid
Ers ei ffurfio yn 2018, mae’r Panel Ieuenctid wedi rhoi persbectif amhrisiadwy i ni ar pam mae gan rai dan 25 oed hyder isel yn y system gwynion, y rhwystrau rhag gwneud cwyn a sut i wella ymgysylltiad â’r grŵp oedran hwn. Unwaith i ni benderfynu bod angen Panel Ieuenctid i ymgysylltu â phobl ifanc, fe wnaethom gomisiynu Leaders Unlocked, y fenter gymdeithasol ddielw, i recriwtio’r Panel a’u cefnogi yn eu gwaith.
Mae ein Panel Ieuenctid yn cynnwys 42 o bobl ifanc 16-25 oed o gymunedau amrywiol ledled Cymru a Lloegr. Maen nhw’n siarad â’u cyfoedion ac yn helpu i nodi atebion posibl i gynyddu ymddiriedaeth a hyder pobl ifanc mewn plismona, a system gwynion yr heddlu. Mae’r Panel yn cyfarfod â ni’n rheolaidd i hysbysu ein dealltwriaeth o faterion plismona sy’n effeithio ar bobl ifanc ac i gydweithredu ar amrediad o brosiectau.
Mae aelodau’r panel wedi bod yn olygyddion gwadd ein cylchgrawn Learning the Lessons, wedi creu’r ddogfen Canllaw Pobl Ifanc i System Gwynion yr Heddlu a’r fideo sy’n cyd-fynd â hi, ac ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ‘gwybod eich hawliau’. Maen nhw hefyd wedi cynhyrchu blogiau ar gyfer ein gwefan ac wedi cynnal gweminar i staff ar ein mewnrwyd.

Read our Youth Panel's 2030 Manifesto for Change
IOPC Youth Panel Manifesto
Explore the Youth Panel annual survey dashboard
Youth Panel annual survey dashboardDewch i adnabod ein panel ieuenctid
