Gwahaniaethu
Datganodd Ymchwiliad Macpherson i lofruddiaeth Stephen Lawrence fod y gwasanaeth heddlu yn sefydliadol hiliol. Ffeindiodd yr Ymchwiliad dystiolaeth gyson o 'or-blismona' a 'than-amddiffyn' cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Roedd Ymchwiliad Macpherson yn allweddol wrth greu ein rhagflaenydd, yr IPCC, a dyma'r rheswm pam fod IOPC yn bodoli heddiw.
Dros dri deg mlynedd yn ddiweddarach, mae yna lawer o'r dystiolaeth a ddarparwyd i'r Pwyllgor Dethol Materion Cartref yn ei Macpherson: Awgrymodd Ymchwiliad 20 Mlynedd nes ymlaen (“Ymchwiliad HASC”)fod y gwasanaeth heddlu wedi methu i raddau helaeth â datrys problemau a chanfyddiadau o hiliaeth sefydliadol.
Mae ein monitro hyder y cyhoedd yn dangos bod hyder yn y system gwynion bellach yn is ymhlith nifer o grwpiau, gan gynnwys cymunedau Du, ac mae'r grwpiau hyn yn llai tebygol o gwyno.
Canllaw i waith Gwahaniaethu
Hyd yn hyn, rydym wedi cyflwyno'r canlynol:
Ym mis Awst 2021, cyhoeddwyd adroddiad a wnaeth 17 o argymhellion cenedlaethol i wella'r defnydd o taser. Yn yr adroddiad, rydym yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch y gor-ddefnydd o Taser yn erbyn dynion a bechgyn Du, a phobl â phroblemau iechyd meddwl.
Gwnaethom 11 o argymhellion i’r Gasanaeth Heddlu Metropolitan ym mis Awst 2020 i helpu i fynd i'r afael â phryderon ynghylch defnyddio stopio a chwilio yn Llundain.
Ym mis Ebrill 2022, gwnaethom barhau â'r gwaith hwn yn genedlaethol, gan gyhoeddi ein adroddiad stopio a chwilio cenedlaethol a gyhoeddodd 18 argymhelliad ar nifer o faterion, gan gynnwys anghymesuredd, rhagfarn a thrawma. Yn dilyn yr adroddiad hwn, gwnaethom arolygu prif swyddogion pob un o'r 43 heddlu tiriogaethol i ddeall eu hasesiad o stopio a chwilio. Mae'r adroddiad hwn a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023 yn rhoi crynodeb o rai o'r mentrau a fabwysiadwyd gan heddluoedd i wella'r defnydd a'r craffu ar stopio a chwilio.
Ym mis Ionawr 2022, yn dilyn ein hymchwiliad Operation Hotton, gwnaethom 15 o argymhellion i’r Gasanaeth Heddlu Metropolitan i fynd i'r afael â materion diwylliannol sylweddol o fewn yr heddlu, gan gynnwys hiliaeth, bwlio a rhywiaeth.
Roedd ein rhifyn Rhagfyr 2022 o Ffocws wedi'i neilltuo i ymdrin â materion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail hil – yn enwedig lle nad yw'r gwahaniaethu honedig yn amlwg nac yn 'allblyg'.
Ym mis Rhagfyr 2023, cynhaliwyd ymchwiliad uwch-gŵyn ar y cyd rhwng IOPC, HMICFRS (Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi) a’r Coleg Plismona ynghylch adran 60 Stopio a Chwilio. Darllenwch yr adroddiad ymchwiliad i'r uwch-gŵyn a'r datganiad i'r cyfryngau.
Ym mis Tachwedd 2024 cyhoeddwyd pecyn o offer i gefnogi plismona i wella'r ffordd y caiff cwynion am wahaniaethu eu trin. Mae'r pecyn yn cynnwys canllawiau diwygiedig a phecyn cymorth cynhwysfawr ar gyfer trinwyr cwynion ac adroddiad manwl ar wahaniaethu ar sail hil sy'n tynnu sylw at pam fod angen ymchwilio i honiadau o wahaniaethu yn iawn y tro cyntaf er mwyn meithrin hyder yn y system cwynion am yr heddlu.
Yn ogystal â'r offer hyn, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad manwl sy'n tynnu sylw at sut mae angen i'r heddlu ymchwilio’n briodol i honiadau gwahaniaethu er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn effeithiol y tro cyntaf i alluogi pobl i gael hyder yn y system cwynion am yr heddlu.
Yn yr adroddiad, gwnaethom alw am 'newid clir a mesuradwy' er mwyn dileu anghydraddoldebau rhwng hiliau o ran y defnydd o bwerau'r heddlu gan gynnwys stopio a chwilio, defnyddio grym, chwiliadau noeth, yn enwedig ar blant, gyda mwy o ddiogelwch i atal rhagfarn oedolion a sicrhau triniaeth deg.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid fel bod gan bawb ymddiriedaeth a hyder yn y systemau plismona a chwynion am yr heddlu. Rydym yn croesawu Cynllun Gweithredu Hil yr Heddlu ac ymrwymiad yr holl brif gwnstabliaid i ddarparu gwasanaeth gwrth-hiliol a gwrth-wahaniaethol a meithrin gweithle sy'n cynnal yr egwyddorion hyn.
Er mwyn helpu i sicrhau cysondeb ac arfer gorau yn ein proses o ymdrin ag achosion gwahaniaethu, rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
Hyfforddiant a chanllawiau ar wahaniaethu
Darperir hyfforddiant a chanllawiau mewnol i’n staff a’n penderfynwyr sydd yn ymwneud â dadansoddi, gwneud a chyfleu penderfyniadau ar faterion gwahaniaethu uniongyrchol. Rydym wedi canolbwyntio'n benodol ar wahaniaethu sydd ddim yn amlwg, fel rhagfarn a stereoteipio.
Canllawiau stopio a chwilio
Rydym wedi diweddaru ein canllawiau stopio a chwilio i sicrhau bod yr argymhellion rydym yn gwneud yn y maes hwn yn llywio ein dull ein hunain o ymdrin ag achosion tebyg. Mae'r gwaith hwn yn cwmpasu materion allweddol, gan gynnwys; cyfreithlondeb, ansawdd a diogelwch y cyfarfyddiad, defnyddio grym, cyd-destun hanesyddol a thrawma. Mae'r canllawiau diweddaredig hefyd yn darparu dolenni a gwybodaeth i sicrhau bod ein staff yn ystyried y ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau priodol yn y maes hwn.
Canllawiau iaith
Byddwn yn sicrhau bod yr iaith rydym yn defnyddio yn sensitif ac yn ddilys. Mae hyn wedi cynnwys ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid – er mwyn sicrhau bod y newidiadau a wnawn yn cael eu llywio gan y cymunedau sy’n cael eu heffeithio fwyaf. Mae'r newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud yn cynnwys:
- Nid ydym bellach yn defnyddio'r acronym BAME a lle bynnag sy’n bosib, dylem fod yn benodol ynglŷn â'r ethnigrwydd rydym yn cyfeirio ato. Os oes angen term torfol, dylem ysgrifennu Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig – yn llawn.
- Rhaid rhoi priflythrennau ar ethnigrwydd bob amser – h.y. Du a Gwyn.
- Rhaid cyfeirio at bawb o dan 18 oed yn ein hachosion ni fel plentyn neu blant, nid ieuenctid na phobl ifanc.