Hillsborough investigation

The Hillsborough disaster unfolded on 15 April 1989, as thousands of people attended the FA Cup Semi-Final between Liverpool Football Club and Nottingham Forest Football Club. Ninety-seven people died, hundreds more were injured, and countless people affected. It remains the worst disaster in British sporting history.

Yn 2012, lansiodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH), Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ar y pryd, ymchwiliad annibynnol i weithredoedd yr heddlu yn dilyn trychineb Hillsborough. Arweiniodd y drychineb at farwolaethau 97 o gefnogwyr Lerpwl, ac mae’n parhau i fod y drychineb waethaf yn hanes chwaraeon Prydain hyd heddiw.

Dyma’r ymchwiliad annibynnol mwyaf erioed i gamymddwyn a throseddoldeb honedig yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Cefndir 

Bu farw naw deg saith o gefnogwyr Lerpwl o ganlyniad i’r digwyddiadau a ddigwyddodd yn rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar 15 Ebrill 1989. Cafodd cannoedd yn fwy o gefnogwyr eu hanafu ac mae’r drychineb wedi gadael pobl  di-rif a oroesodd wedi’u trawmateiddio.

Teithiodd mwy na 50,000 o ddynion, merched a phlant i'r gêm yn Stadiwm Hillsborough, cartref Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday. Ychydig funudau ar ôl y gic gyntaf, cafwyd gwasgfa angeuol ar derasau pen Leppings Lane, lle lleolwyd cefnogwyr Lerpwl.

Roedd rhai adroddiadau yn y cyfryngau yn canolbwyntio ar honiadau di-sail mai ymddygiad meddw cefnogwyr Lerpwl oedd achos y drychineb ac yn rhwystro’r ymateb brys. Mae hyn wedi ei wrthbrofi lawer gwaith.

Dychwelodd y cwestau cychwynnol ym mis Mawrth 1991 reithfarnau o farwolaeth ddamweiniol i'r 95 marwolaeth - fel yr oedd ar y dyddiad hwnnw. Bu farw’r nawdeg chweched dioddefwr, Tony Bland, bron i bedair blynedd ar ôl y drychineb ac, unwaith eto, cofnododd y Crwner reithfarn o farwolaeth ddamweiniol. Bu farw’r nawdeg seithfed dioddefwr, Andrew Devine, ar 27 Gorffennaf 2021, ar ôl salwch hir o 32 mlynedd o niwmonia allsugnad, a dyfarnodd y Crwner iddo farw o ganlyniad i’w anafiadau a gafodd yn Stadiwm Hillsborough.

A snapshot of our investigations

About the Hillsborough investigations

Find out more about why the investigations first began, our powers and what we found.

Media enquiries

We have a dedicated press office who handle all media enquiries.