Allegations of failure to notify force of association - North Wales
Published
06 Apr 2023
Investigation
Darllenwch wybodaeth yma am ein hymchwiliad i honiadau bod PC Gavin Griffiths wedi methu â hysbysu’r heddlu o gysylltiad ag unigolyn yr oedd wedi gweld gwybodaeth a chudd-wybodaeth ar systemau Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas ag ef a’i fod wedi parhau i wneud hynny, ar un achlysur, heb ddiben plismona, a methu â chofrestru ‘cysylltiad hysbysadwy’ ag Adran Safonau Proffesiynol yr heddlu.Dechreuodd yr ymchwiliad, a gynhaliwyd gan Heddlu Gogledd Cymru dan ein cyfarwyddyd a’n rheolaeth, i'r honiadau ym mis Gorffennaf 2022, yn dilyn atgyfeiriad gan yr heddlu ynghylch ymddygiad y swyddog. Mewn gwrandawiad camymddwyn ym mis Mawrth 2023 penderfynwyd y byddai’r swyddog yn cael ei ddiswyddo heb rybudd.