Ymgysylltu â chymunedau

Rydym yn gweithio’n agos gyda chymunedau i ddeall ac ymateb i’w pryderon, gan feithrin hyder yn system gwynion yr heddlu.

Ein nod yw creu system gwynion yr heddlu y mae’r cyhoedd yn ymddiried ynddi ac yn hyderus y bydd yn sicrhau canlyniadau teg, annibynnol a chyfiawn. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n hanfodol ein bod yn gwrando, yn deall ac yn ymateb i anghenion y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau, neu’r rhai a fydd yn eu defnyddio yn y dyfodol.

Ni allwn gyflawni hyn ar ein pen ein hunain. Mae meithrin hyder yn system gwynion yr heddlu yn golygu gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid a chymunedau i ddeall eu pryderon ac ymateb iddynt.

Un o'n hamcanion allweddol yn ein cynllun strategol  yw cynyddu ymwybyddiaeth a hyder yn ein gwaith. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym yn addasu ein hymgysylltiad arfaethedig ym mhob un o’n rhanbarthau ledled Lloegr a Chymru fel y gall pobl sydd â’r hyder lleiaf mewn plismona rannu eu profiadau. 

Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd gyda grwpiau o gefndiroedd gwahanol i drafod ein hymchwiliadau parhaus, i ddarparu gwybodaeth am yr hawl i gwyno a sut i wneud cwyn, ac i ddysgu oddi wrthynt.

O’n i eisiau dweud diolch am eich amser ac egni ddoe. A wnewch chi ddiolch yn fawr i aelodau eraill y tîm os gwelwch yn dda. Mae gwybodaeth y bobl ifanc wedi cynyddu cymaint Emily Heath, Arweinydd Cyfranogi Ieuenctid ar gyfer Uned Lleihau Trais Llundain

Ein hymgysylltiad â chymunedau

I just want to say a huge thank you again for the visits, the young people really benefited from it and would like you to come back an talk to them some more about stop and search. Thank you again for being approachable and allowing our young people to feel comfortable enough to confide in you. Kate Ribchester, Brunswick centre, Kirklees

Sut gall eich mudiad cymunedol gymryd rhan?

Rydym yn gweithio i ymgysylltu a chael mewnbwn gan ystod o gymunedau. Os ydych am i'ch sefydliad gymryd rhan, cysylltwch â'n tîm. E-bostiwch ni