Aelod o staff Heddlu’r Met gerbron y llys ar gyhuddiadau o lygredd

Published: 06 Oct 2026
News

Mae disgwyl i weithredwraig trin galwadau o Heddlu’r Met ymddangos yn y llys ar ddydd Mercher 7 Hydref, wedi’i chyhuddo o droseddau sy’n ymwneud â llygredd, yn dilyn ymchwiliad a gyfarwyddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Mae Donna’ree Bennett i fod i ymddangos yn Llys Ynadon San Steffan i wynebu dau gyhuddiad sy’n ymwneud â gwyngalchu arian, o ganlyniad i’n ymchwiliad a gafodd eu cynnal gan Uned Gwrth-lygredd a Cham-drin Heddlu’r Met, o dan ein cyfarwyddyd a’n rheolaeth.

Bydd hi hefyd yn wynebu cyhuddiad o geisio mewnforio cyffur Dosbarth A i’r Deyrnas Unedig.

Gwnaethom ddechrau ein ymchwiliad cyfarwyddedig ym mis Ionawr 2024. Yn dilyn cwblhau’r ymchwiliad ym mis Mawrth 2026, cyfeiriwyd ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd y cyhuddiadau.

Tags
  • Metropolitan Police Service
  • Llygredd a cham-drin pŵer