Apêl am dystion gan IOPC yn dilyn marwolaeth camlas yn ystod Carnifal Notting Hill

Published: 04 Sep 2026
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cynnal ymchwiliad annibynnol i gysylltiad yr heddlu â dyn a fu farw ar ôl rhedeg oddi wrth swyddogion a mynd i mewn i’r Gamlas Grand Union ger Carnifal Notting Hill ar brynhawn dydd Llun (31 Awst).

Roedd Karnell Kelly, 25 oed, yn gwisgo gorchudd wyneb pan ddaeth at y digwyddiad yng nghyffiniau Harrow Road (A404). Tua 3.20yh, siaradodd swyddogion yn â’r dyn am gyfnod byr cyn iddo redeg i ffwrdd.

Rydym yn adolygu ffilm o gamerâu corff-wisgedig y swyddogion a’i ddilynodd wedyn ar hyd Hormead Road, W9.

Rydym hefyd yn apelio am unrhyw dystion a/neu ddeunydd fideo o unrhyw ran o’r digwyddiad hwn gan aelodau o’r cyhoedd a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, neu gan bobl mewn tai cyfagos, neu gychod ar y gamlas.

Rydym yn annog pobl i beidio â dyfalu ynghylch y digwyddiad nac i rannu fideos ar-lein.

Rydym wedi cynnal chwiliad o ddeunydd CCTV yn yr ardal ac wedi dosbarthu taflenni i dai cyfagos yn apelio am wybodaeth.

Rydym wedi sefydlu bod swyddogion yr Heddlu Metropolitanaidd ac aelodau o’r cyhoedd wedi mynd i mewn i’r gamlas i dynnu Mr Kelly allan. Rhoddodd y swyddogion gymorth cyntaf brys iddo yn y fan a’r lle.

Yna cafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw yn ddiweddarach. Mae Crwner Ei Fawrhydi wedi cael gwybod am yr achos, ac rydym yn aros am ddyddiad agor y cwest.

Dywedodd Amanda Rowe, Cyfarwyddwr Ymgysylltu’r IOPC:

“Mae ein meddyliau gyda theulu ac anwyliaid Karnell Kelly a phawb sydd wedi’u heffeithio gan ei farwolaeth.

“Mae angen inni sefydlu’n annibynnol union amgylchiadau’r digwyddiad hwn gan ei fod wedi marw yn dilyn rhyngweithio â swyddogion heddlu.

“Felly, rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld a/neu ffilmio unrhyw ran o’r digwyddiad i gysylltu â’n ymchwilwyr trwy e-bost: [email protected] .”

Ar ôl i’r llu roi gwybod am y digwyddiad ddydd Llun, mynychodd ymchwilwyr IOPC weithdrefn ôl-ddigwyddiad yr heddlu er mwyn dechrau casglu gwybodaeth. Gwnaethom gymryd cyfrifon cychwynnol gan 10 swyddog sy’n cael eu trin fel tystion.

Ar ddydd Mercher (2 Medi), chwiliodd deifwyr o Uned Blismona Forol yr Heddlu Metropolitanaidd yr ardal honno o’r gamlas gan fod Mr Kelly, ynghyd â swyddog o’r Heddlu Metropolitanaidd, wedi dioddef anafiadau tra oeddent yn y dŵr, ac rydym yn ceisio sefydlu’r achos.

Rydym wedi cyfarfod â theulu Mr Kelly i egluro ein rôl a byddwn yn eu diweddaru’n rheolaidd trwy gydol ein ymchwiliad, sydd yn ei gamau cynnar.

Tags
  • Metropolitan Police Service
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol