Diweddariad gan IOPC ynghylch gwrthdrawiad ffordd marwol yn Stratford-upon-Avon
Rydym yn ymchwilio i amgylchiadau digwyddiad traffig ffordd marwol a ddilynodd ddilyniad gan yr heddlu yn Stratford-upon-Avon ar ddydd Llun 24 Awst, pan fu farw gyrrwr yn y fan a'r lle ac fe gafodd modurwr arall anafiadau difrifol.
Mae'r gyrrwr ymadawedig wedi cael ei adnabod yn ffurfiol fel Roman Kalas, 19 oed. Cynhaliwyd archwiliad post-mortem ar ddydd Gwener, a nodwyd mai anafiadau trawmatig i'r pen a'r frest oedd achos cychwynnol ei farwolaeth.
Bu'r Audi A3 du mewn gwrthdrawiad â Ford Puma a oedd yn cael ei yrru gan Karen Joseph, 62 oed, o Stratford-upon-Avon.
Cafodd hi ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau critigol, lle bu farw'n anffodus ddydd Gwener.
Bydd cwestau i'w marwolaethau yn cael eu hagor yfory (dydd Gwener 4 Medi).
Cafodd merch Mrs Joseph, a oedd yn deithiwr yn y car, fân anafiadau yn y digwyddiad.
Rydym wedi derbyn ac wrthi'n adolygu fideo dashcam o gerbyd Heddlu Swydd Warwick a fu'n dilyn yr Audi am oddeutu chwe munud cyn iddo wrthdaro ar Warwick Road tua 5.40pm ar ddydd Llun.
Rydym wedi sefydlu bod y swyddog, a oedd yn gyrru cerbyd un-criw, wedi dechrau'r dilyniad ar ôl i Mr Kalas fethu ag aros ar gyfer yr heddlu ar Birmingham Road. Roedd seirenau'r cerbyd heddlu a'r goleuadau argyfwng ymlaen.
Aeth ymchwilwyr IOPC ar hyd llwybr y dilyniad yr wythnos ddiwethaf a darganfod deunydd CCTV posib. Rydym hefyd yn apelio i unrhyw un sydd ag unrhyw ffilm o unrhyw ran o'r dilyniad, waeth pa mor fyr ydyw, i gysylltu â ni.
Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Derrick Campbell: “Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theuluoedd a ffrindiau Roman Kalas a Karen Joseph, a phawb sydd wedi'u heffeithio gan eu marwolaethau.
“Rydym wedi siarad â'r ddau deulu i'w hysbysu am ein ymchwiliad, a byddant yn cael diweddariadau rheolaidd. Maent wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Gan fod dau aelod o'r cyhoedd wedi marw mewn digwyddiad a oedd yn cynnwys erlid gan yr heddlu, mae'n bwysig bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal er mwyn sefydlu'r amgylchiadau llawn.
“Rydym yn archwilio ffilm dashcam yr heddlu, yn chwilio am ffilm CCTV ar hyd llwybr y dilyniad, ac yn apelio i unrhyw un sydd â ffilm drws tŷ neu dashcam i gysylltu â'n ymchwilwyr ar 0300 303 5609 neu drwy e-bost: [email protected]”
Ar ôl cael gwybod gan yr heddlu am y gwrthdrawiad, aeth ymchwilwyr IOPC i leoliad y gwrthdrawiad ac i'r weithdrefn ôl-ddigwyddiad heddlu i ddechrau casglu gwybodaeth, a datganwyd ymchwiliad annibynnol yr un noson.