Camymddwyn Difrifol wedi'i gadarnhau yn erbyn Swyddog Heddlu Swydd Warwick a ddilynodd berthynas anaddas gyda menyw
Mae panel disgyblu heddlu wedi casglu bod ditectif Heddlu Swydd Warwick a ddilynodd berthynas anaddas gyda mam plentyn a oedd yn ddioddefwr wedi cyflawni camymddwyn difrifol, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Mewn gwrandawiad carlam camymddwyn a gynhaliwyd ar ddydd Gwener Ebrill 17, canfuwyd bod DC John Littlewood wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu yn ymwneud ag awdurdod, parch a chwrteisi; gonestrwydd ac uniondeb; dyletswyddau a chyfrifoldebau; ac ymddygiad.
Tynnwyd y casgliad yn y gwrandawiad y byddai DC Littlewood wedi cael ei ddiswyddo ar unwaith pe na fyddai eisoes wedi gadael y llu. Bydd e nawr yn cael ei roi ar y rhestr gwahardd sy'n golygu na fydd e'n gallu gweithio mewn plismona eto.
Roedd y dyn 52 oed, a oedd yn gweithio yn nhîm Cam-drin Plant, Masnachu pobl a cham-fanteisio y llu, wedi cyfaddef un cownt o gam-ddefnydd o bwerau a breintiau'r heddlu gan gwnstabl, mewn gwrandawiad llys ym mis Ionawr.
Rhoddwyd dedfryd carchar wyth mis iddo, wedi'i ohirio am 15 mis, a gorchmynnwyd iddo ymgymryd â 100 awr o waith yn y gymuned.
Datgelodd ein ymchwiliad sut cyfnewidiodd DC Littlewood gannoedd o negeseuon, nifer ohonynt o natur rhywiol, gyda menyw gwnaeth e gwrdd â trwy un o'i ymchwiliadau.
Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Derrick Campbell: "Roedd DC Littlewood yn gweithio yn yr uned diogelu'r cyhoedd ar amser y cyhuddiadau hyn, ac felly, roedd ganddo fynediad at fenywod agored i niwed. Roedd e mewn safle o ymddiriedaeth. Fe gamddefnyddiodd y safle hwnnw gan ddangos ymddygiad rheibus a dilyn perthynas anaddas."
Dechreuodd ein ymchwiliad ym mis Rhagfyr 2023 yn dilyn atgyfeiriad gan Heddlu Swydd Warwick ac fe ddiweddodd ym mis Rhagfyr 2024 pan anfonwyd ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a awdurdododd y cyhuddiadau.
Gwnaeth Littlewood gwrdd â Menyw X ym mis Hydref 2021 pan gafodd ei aseinio i ymchwilio i adroddiad o ymosodiad rhywiol yn erbyn merch y fenyw.
Rhwng mis Mai a mis Medi 2023 ffeindiodd ein ymchwilwyr ei fod e wedi cyfnewid mwy na 300 o negeseuon gyda'r fenyw, yn cynnwys nifer o natur anaddas.
Roedd un o'r negeseuon gan Littlewood yn darllen: “if you are careless with my messages and don’t delete them you could really drop me in it at work”.
Roedd ein ymchwiliad hefyd yn cynnwys ymholiadau CCTV a mapio safle cell o'i ffôn a ddangosodd ei fod wedi cwrdd â'r fenyw mewn gwesty yn Coventry yn oriau cynnar 1 Hydref 2023 am tua 50 munud.
Buodd Littlewood hefyd yn ymweld â thŷ Menyw X yn gyson, a gododd amheuon ar gyfer gweithiwr cymorth a adroddodd bryderon i Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Swydd Warwick.
Ychwanegodd Mr Campbell: "Roedd Menyw X mewn safle bregus pan cafodd hi ei manipiwleiddio gan DC Littlewood.Cwrddodd ef â hi tra ar ddyletswydd a defnyddio'r cysylltiad hwnnw er mwyn dechrau cyfeillgarwch a arweiniodd ar gysylltiad anaddas yn cynnwys negeseuon rhywiol.
"Roedd y swyddog yn gwybod bod ei ymddygiad yn anaddas wrth iddo ddweud wrthi hi am ddileu negeseuon, lle cafodd rhai ohonynt eu hanfon tra ar ddyletswydd, gan y byddant yn ei gael e mewn i drafferth yn y gwaith.
Mae safonau proffesiynol yr heddlu yn glir bod swyddogion byth i fod i ddefnyddio eu swydd i sefydlu neu ddilyn perthnasau anaddas gyda unrhyw ddioddefwyr, tystion, troseddwyr neu berson bregus arall a byth i gynnal unrhyw gyfathrebu anaddas.
"Cwblhaodd Littlewood wiriad iechyd uniondeb ar 18 Medi 2023 yn cadarnhau ei fod yn deall y Cod Moeseg a Ffiniau Proffesiynol. Fodd bynnag, gwnaethom ffeindio ei fod e wedi cyfnewid cannoedd o negeseuon gyda hi ac mae'n amlwg ei fod e wedi dileu llawer mwy."