Rhingyll dalfa yn cael ei ddiswyddo am ddefnyddio iaith wahaniaethol tuag at ddyn yn y ddalfa
Mae swyddog Heddlu Swydd Nottingham a ddywedodd wrth berson yn y ddalfa i "fynd adre" ac am "fynd ar long a mynd yn ôl i ble y daethoch" wedi cael ei ddiswyddo mewn gwrandawiad disgyblu, ar ôl ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Gwnaeth y Rhingyll dalfa y sylwadau yng ngorsaf heddlu Mansfield ar 19 Tachwedd llynedd wrth iddo hebrwng y person tuag at fan carchar.
Roedd y dyn, sydd â dinasyddiaeth Brydeinig a chefndir teulu Iranaidd, yn cael ei drosglwyddo i lys ynadon y dref.
Gwnaethpwyd honiad bod y swyddog wedi gwneud sylwadau gwahaniaethol wrth iddo ei symud tuag at y cerbyd ar ôl cydio yn ei siaced.
Yn y gwrandawiad disgyblu carlam ddoe (2 Medi) ffeindiodd panel disgyblu fod camymddygiad difrifol wedi ei gadarnhau a diswyddwyd y swyddog ar unwaith. Canfuwyd ei fod wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu mewn perthynas â chydraddoldeb a amrywiaeth; parch awdurdod a cwrteisi; ac ymddygiad sy’n dwyn anfri.
Mae hefyd wedi cael ei roi ar y rhestr waharddedig, sy’n golygu na all weithio ym maes plismona byth eto.
Prif Gwnstabl Heddlu Swydd Nottingham, Steve Cooper, oedd yn cadeirio’r panel disgyblu a ganiataodd i’r swyddog aros yn ddienw ar sail feddygol.
Atgyfeiriodd Heddlu Swydd Nottingham fater ymddygiad atom ar 27 Tachwedd ar ôl i gydweithiwr godi pryderon ynghylch y ffordd yr oedd y rhingyll wedi trin y person oedd yn y ddalfa.
Gwnaethom benderfynu ymchwilio i’r mater yn annibynnol ac, fel rhan o’n ymholiadau, gwnaethom adolygu deunydd CCTV o’r ddalfa.
Cofnododd y cyfathrebu wrth ddesg y ddalfa lle clywir y person oedd yn y ddalfa yn gwneud sylwadau dirmygus am Loegr wrth iddo oedi cyn mynd mewn i’r fan carchar.
Mae’r CCTV yn dangos y swyddog profiadol yn cerdded o amgylch y ddesg cyn cydio yn siaced y dyn, ei symud tuag at yr allanfa a dweud: “dos yn ôl ar gwch ac yn ôl i ble rwyt ti’n dod”.
Fel rhan o’n ymchwiliad, gwnaethom hefyd archwilio cofnodion hyfforddi’r rhingyll, cofnodion cadw yn y ddalfa, ac ystyried polisïau’r llu a pholisïau plismona cenedlaethol.
Dywedodd Emily Barry, Cyfarwyddwr Ymgysylltu’r IOPC: “Roedd y deunydd CCTV a welsom yn dangos bod y sawl oedd yn y ddalfa yn ddadleugar ac yn anghwrtais. Ar ôl cwblhau’r gwaith papur wrth ddesg y ddalfa, ni symudodd tuag at y fan carchar fel y cafodd ei gyfarwyddo i’w wneud.
“Mae swyddogion yn wynebu sefyllfaoedd heriol bob dydd, ond nid yw byth yn briodol troi at sylwadau sy’n wahaniaethol ar sail hil. Fel rhingyll heddlu, roedd ganddo swydd goruchwylio, ac mae hynny’n dod â chyfrifoldeb uwch i arfer hunan-reolaeth a bod yn esiampl o ymddygiad priodol.
“Roedd ei sylwadau’n annerbyniol, ac fe’u gwnaed hefyd ym mhresenoldeb nifer o bobl eraill y gellid disgwyl iddynt edrych at ringyll heddlu i arwain trwy esiampl.”
Dywedodd y swyddog wrth y gwrandawiad ei fod yn difaru ei ddewis o eiriau, nad oeddent wedi’u hysgogi gan ragfarn hiliol, a’i fod yn ymateb i sylwadau’r dyn a oedd yn anghwrtais ac yn sarhaus.
Derbyniodd fod ei ymateb yn “amhriodol” a’i fod yn deall yr effaith y byddai hyn yn ei gael ar enw da Heddlu Swydd Nottingham.