Camymddwyn difrifol wedi'i gadarnhau yn erbyn cyn-heddwas o Swydd Nottingham oedd yn rhan o wrthdrawiad marwol
Mae gwrandawiad disgyblu wedi dyfarnu bod cyn-swyddog Heddlu Swydd Nottingham wedi cyflawni camymddwyn difrifol pan achosodd farwolaeth dyn a gafodd ei daro gan fan heddlu roedd e'n gyrru. Mae'n dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Mewn gwrandawiad camymddwyn uwch-gyfeiriedig a gynhaliwyd heddiw (dydd Gwener 5 Mehefin), ffeindiwyd bod y cyn-gwnstabl heddlu Steven Allcock, 34 oed, wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu o ran ymddygiad annheilwng mewn perthynas â'r gwrthdrawiad lle buodd y cyn-ffotograffydd Trevor Bartlett farw. Roedd Mr Bartlett, a oedd yn 80 oed, yn cerdded ar groesfan ar Derby Road A52 yn Beeston, Nottingham, ar 19 Rhagfyr 2023, pan cafodd ei daro gan fan heddlu.Yn anffodus, cafodd ei gadarnhau'n farw ar y safle.
Ffeindiodd y gwrandawiad disgyblu, a gadeiriwyd gan y Prif Gwnstabl Steve Cooper, bod camymddwyn difrifol wedi'i brofi ar y sail bod ymddygiad y cyn-heddwas yn gyfystyr â throsedd troseddol, ei fod wedi achosi marwolaeth Mr Bartlett, ac y byddai'n tanseilio ymddiriedaeth a hyder ynddo fe fel swyddog heddlu a'r llu heddlu yn fwy cyffredinol. Tynnwyd y casgliad yn y gwrandawiad y byddai PC Allcock wedi cael ei ddiswyddo ar unwaith pe na fyddai eisoes wedi gadael y llu. Bydd e nawr yn cael ei roi ar y rhestr gwahardd, a fydd yn ei atal rhag cael ei gyflogi o fewn plismona yn y dyfodol.
Roedd y cyn-swyddog, a ymddiswyddodd ar 31 Mai (2026), eisoes wedi cyfaddef achosi marwolaeth Mr Bartlett trwy yrru esgeulus ac ym mis Chwefror eleni fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Derby pan cafodd ei orchymyn i gyflawni 180 awr o wasanaeth cymuned a'i wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.
Sefydlodd IOPC bod PC Allcock wedi bod yn yrrwr ymateb newydd-gymwysedig oedd yn cymryd person dan gadwad i'r ddalfa yn dilyn digwyddiad domestig. Roedd y person dan gadwad yn gweiddi ac yn hunan-anafu jest cyn y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd tra roedd y goleuadau traffig wrth y groesfan yn goch.
Dywedodd cyfarwyddwr IOPC, Emily Barry: "Mae ein cydymdeimladau yn parhau i fod gyda theulu Mr Bartlett a phawb a effeithiwyd gan ei farwolaeth trasig.
"Gall heddlu yrru trwy'r golau coch pan yn angenrheidiol ond ni ddylent beryglu diogelwch defnyddwyr ffordd eraill. Methodd PC Allcock i ystyried y peryglon posib, gyda chanlyniadau marwol, ac mae e nawr wedi cael ei ddal i gyfri am ei weithredoedd."
Cafodd ymchwiliad IOPC ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2024 pan ffeindiom achos i'w ateb yn erbyn y swyddog am gamymddwyn difrifol. Atgyfeiriwyd ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd y cyhuddiad yn erbyn PC Allcock.