Penderfyniad IOPC ynghylch achos disgyblu saethu Chris Kaba gan yr heddlu

Published: 05 Aug 2026
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn gallu cadarnhau na fydd y swyddog Met a saethodd Chris Kaba yn farw bellach yn wynebu achos disgyblu.

Ym mis Ionawr, gwnaethom y penderfyniad i oedi cyflwyno papurau camymddwyn difrifol am y Rhingyll Martyn Blake nes i'r newid yn y gyfraith sy'n ymwneud â’r prawf defnyddio grym mewn achosion o gamymddwyn yr heddlu ddod i rym ac roedd ei effaith yn glir.

Ar 30 Mehefin newidiodd y prawf defnyddio grym mewn achosion o'r fath o'r prawf cyfraith sifil i'r prawf cyfraith troseddol.

Y mis diwethaf, gwnaethom gyhoeddi Safbwynt Polisi a amlinellodd y canlynol. Er mwyn gallu cymhwyso’r gyfraith yn y ffordd fwyaf teg a chymesur, mewn achosion cyfredol IOPC lle cafodd penderfyniadau achos i’w ateb eu gwneud gan ddefnyddio’r prawf cyfraith sifil, nad oedd camau disgyblu bellach wedi'u cyfiawnhau ac y dylid tynnu achosion yn ôl oni bai bod yna amgylchiadau eithriadol.

Byddai hyn yn atal unrhyw annhegwch a fyddai'n digwydd pe bai swyddogion yn wynebu diswyddiad posib am gamymddwyn, lle na fyddai hynny’n gyfystyr â chamymddwyn o dan y gyfraith newydd pe bai'n digwydd nawr.

Fe wnaethom rannu ein penderfyniad polisi gyda chynrychiolwyr teulu Chris Kaba, Rhingyll Blake a'r Met, i geisio eu barn cyn cadarnhau a fyddai’r achos disgyblu yn cael ei dynnu'n ôl yn yr achos hwn.

Rydym wedi ystyried eu sylwadau yn ofalus ac wedi penderfynu nad oes unrhyw amgylchiadau eithriadol yn yr achos hwn a fyddai'n cyfiawnhau newid o'r sefyllfa hon ac felly bydd yr achos disgyblu yn cael ei dynnu'n ôl.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Amanda Rowe: "Mae ein meddyliau'n parhau i fod gyda theulu a ffrindiau Chris Kaba a phawb a gafodd eu heffeithio gan ei farwolaeth.

"Rydym yn ymwybodol iawn o effaith y trafodion ar bawb sy'n ymwneud â'r achos hwn ac rydym o hyd wedi ceisio osgoi unrhyw oedi diangen, fodd bynnag, roedd yn gywir ein bod wedi oedi symud ymlaen â'r achos disgyblu nes i'r newid deddfwriaeth ddod i rym, ac roedd ei effaith yn glir.

"Ar ôl ystyried ein polisi a'r sylwadau gan deulu Kaba a'r Rhingyll Blake, rydym heddiw wedi eu hysbysu o'n penderfyniad i dynnu'r achos disgyblu yn ôl."

Rydym hefyd wedi hysbysu Crwner EF o'r penderfyniad hwn, a oedd wedi oedi ystyried a ddylid ailagor y cwest tra bod materion disgyblu yn parhau i gael eu oedi.

Tags
  • Metropolitan Police Service
  • Defnydd o rym a phlismona arfog