Gwrandawiad yn penderfynu fod cyn Brif Gwnstabl Heddlu Swydd Stafford wedi cyflawni camymddwyn difrifol

Published: 30 Jul 2026
News

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cefnogi galwadau am newid y ffordd mae uwch swyddogion heddlu yn cael eu dewis ar ôl i gamymddwyn difrifol gael ei ganfod yn erbyn cyn-Brif Gwnstabl Swydd Stafford, Chris Noble. 

Byddai Mr Noble wedi cael ei ddiswyddo heb rybudd heddiw (Gorffennaf 30) pe na bai e wedi ymddiswyddo yn syth cyn gwrandawiad disgyblu deuddydd lle ffeindiodd panel annibynnol ei fod wedi cyflawni camymddwyn difrifol.

Canfuwyd bod y dyn 52 oed - a oedd yn arwain Heddlu Swydd Stafford o fis Rhagfyr 2021 hyd at ei atal ym mis Awst 2025 ar ôl bod yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu Humberside yn flaenorol - wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu. 

Bydd canlyniad y gwrandawiad yn cael ei rannu gyda'r Coleg Plismona i roi Mr Noble ar y rhestr waharddedig, sy'n ei atal rhag gweithio mewn plismona a chyrff gorfodi'r gyfraith eraill yn y dyfodol.

Mae'r ymchwiliad i'w ymddygiad wedi cael ei arwain gan IOPC, ac rydym yn parhau i ymchwilio i honiadau eraill sy'n ymwneud â Mr Noble o fewn a thu allan i'w ddyletswyddau plismona.

Daw'r canfyddiad camymddwyn difrifol ychydig wythnosau ar ôl i adroddiad gan Gomisiwn Arweinyddiaeth yr Heddlu ddod i'r casgliad bod safonau yn rhengoedd uchaf plismona yng Nghymru a Lloegr yn brin o'r safonau uchel y mae'r cyhoedd a'r swyddogion heddlu yn eu haeddu’n gyson.

Fe wnaethom ymgysylltu â'r Comisiwn drwy gydol eu gwaith a chyflwyno tystiolaeth i gynorthwyo eu canfyddiadau.  

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol IOPC, Rachel Watson: "Mae'r adroddiad yn argymell ailwampio prosesau dyrchafu ar gyfer prif swyddogion i sicrhau tryloywder a thegwch, ar gyfer mwy o fuddsoddiad mewn hyfforddiant arweinyddiaeth, a gwelliannau i adnabod a chyflymu talent. Rwy'n cefnogi'r cynigion hyn.

"Fel corff gwarchod cwynion yr heddlu, rydym mewn sefyllfa unigryw i nodi materion, meysydd pryder, a ffyrdd o wella plismona. 

"Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o brif swyddogion yn gwneud gwaith da mewn amgylchiadau heriol. Ond yn rhy aml mae ein ymchwiliadau yn datgelu pryderon hirdymor, heb eu hadrodd, am eu hymddygiad. Mae angen codi a chlywed pryderon ymhell cyn i rywun gael ei ystyried yn addas i'w benodi i'r rheng prif swyddog.

"Mae arweinwyr yr heddlu yn gosod y diwylliant ar gyfer heddluoedd felly mae'n hanfodol bod y bobl gywir yn cael y swyddi prif swyddogion - pobl sydd â sgiliau arwain effeithiol ac sy'n dod o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys profiad i ffwrdd o blismona. Ni ddylai pobl gyrraedd rhengoedd prif swyddogion dim ond oherwydd bod eu hwynebau yn 'ffitio'."

Tan iddo ymddiswyddo, roedd Mr Noble wedi bod yn un o wyth prif gwnstabl sy'n gwasanaethu neu gyn-brif gwnstabl dan ymchwiliad i gamymddwyn neu a oedd yn aros am drafodion cysylltiedig.

Cyfarwyddodd cadeirydd y gwrandawiad camymddwyn na ellir rhyddhau unrhyw wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â manylion yr honiadau a ddarganfuwyd yn erbyn Mr Noble ar hyn o bryd. Bydd y cyfyngiadau adrodd yn aros ar waith nes bod cyfarwyddiadau pellach yn cael eu cyhoeddi gan y cadeirydd.

Mae IOPC wedi sefydlu cyfeiriad e-bost a rhif ffôn pwrpasol ar gyfer unrhyw un a hoffai siarad â'n ymchwilwyr am yr achos. Gellir cysylltu â ni ar 0300 303 5734 neu [email protected].

Tags
  • Staffordshire Police
  • Humberside Police