Cyn-dditectif o Swydd Derby wedi’i garcharu yn dilyn gwrthdrawiad marwol
Cafodd cyn-dditectif Heddlu Swydd Derby ei garcharu heddiw (dydd Gwener 17 Gorffennaf) am achosi marwolaeth dyn drwy yrru’n beryglus ac am anafu menyw yn ddifrifol drwy yrru’n beryglus, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Ymddangosodd y cyn-Brif Arolygydd Ditectif (DCI) Michael Cooper yn Llys y Goron Nottingham ar 6 Gorffennaf pan gyfaddefodd ei fod wedi achosi marwolaeth James Bane, 50 oed, drwy yrru’n beryglus. Roedd Mr Bane yn cerdded pan gafodd ei daro gan gar heddlu heb er farcio a oedd yn cael ei yrru gan y swyddog ar Egginton Road, Etwall, Swydd Derby, ar 28 Medi 2021. Cyfaddefodd hefyd i gyhuddiad yn ymwneud â’r anafiadau difrifol a gafodd cerddwr arall, menyw, a darwyd gan y Peugeot heddlu roedd e’n ei yrru.
Newidiodd y cyn-DCI, sy’n 55 oed, ei bledion i fod yn euog ar ôl gwadu’r cyhuddiadau yn flaenorol. Gohiriwyd y ddedfryd tan heddiw pan gafodd ei garcharu am dair blynedd a saith mis mewn perthynas â marwolaeth Mr Bane, ac fe gafodd ddedfryd gyfochrog o ddwy flynedd am achosi anafiadau i’r fenyw. Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd.
Honnodd y cyn-DCI Cooper ei fod wedi colli ymwybyddiaeth ychydig eiliadau cyn y gwrthdrawiad. Clywodd y llys ei fod yn derbyn ei fod wedi bod yn beryglus iddo yrru o ystyried ei hanes meddygol o lewygu yn flaenorol.
Ffeindiodd ymchwiliad yr IOPC, a ddechreuodd yn dilyn atgyfeiriad Marwolaeth neu Anaf Difrifol gan Heddlu Swydd Derby, nad oedd wedi hysbysu’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am ei gyflwr, er iddo gael ei gynghori’n flaenorol gan weithwyr meddygol proffesiynol i wneud hynny.
Dangosodd y dystiolaeth gwnaethom gasglu fod y ditectif wedi gadael canolfan hamdden ychydig cyn y gwrthdrawiad. Roedd ar alwad ffôn symudol wrth yrru, a ddaeth i ben tua phum eiliad cyn y gwrthdrawiad. Cafwyd hyd i’r ffôn yn y lle ar gyfer traed y gyrrwr.
Cyn y gwrthdrawiad, symudodd i ochr arall y ffordd i oddiweddyd cerbydau oedd wedi’u parcio ac yna cyflymodd o 20mph i 29mph dros bellter o 50 metr cyn gwyro tuag at ymyl y palmant. Tarodd y Peugeot gar wedi’i barcio cyn esgyn y palmant a tharo menyw oedd yn cerdded arno. Yna aeth yn ôl i’r ffordd lle tarodd Mr Bane a’i gerbyd, yr oedd e’n sefyll y tu ôl iddo. Yn anffodus, bu farw Mr Bane yn y fan a’r lle.
Ffeindiwyd y ditectif wedi ymgrymo dros sedd flaen y teithiwr gyda chwyddiant i’w ben. Pan gafodd ei gyfweld dywedodd nad oedd yn gallu cofio beth oedd wedi digwydd.
Daethpwyd o hyd i offer campfa’r cyn-DCI Cooper yng nghist y car, a arweiniodd at ymchwiliad ar wahân gan yr IOPC i honiadau ei fod wedi defnyddio’r cerbyd heddlu at ddibenion preifat. Dangosodd tystiolaeth ei fod, ar hyd at 18 achlysur rhwng mis Mehefin a diwedd mis Medi 2021, wedi defnyddio’r car at ddibenion nad oeddent yn gysylltiedig â phlismona, gan gynnwys ymweliadau â chanolfan hamdden a bwyty bwyd cyflym. Roedd wedi cludo teithwyr oedd ddim yn swyddogion heddlu, a oedd yn doriad arall o’r polisi, ac nid oedd wedi cofnodi unrhyw un o’r teithiau.
Roedd hefyd wedi defnyddio tanwydd a dalwyd amdano gan yr heddlu, tra ar yr un pryd yn derbyn lwfans defnyddiwr hanfodol am ddefnyddio ei gar ei hun ar gyfer y gwaith.
Ymddiswyddodd y swyddog yn fuan cyn i wrandawiad camymddwyn carlam, a drefnwyd gan Heddlu Swydd Derby ym mis Awst 2024, benderfynu bod ei ddefnydd personol o’r car heddlu yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol ac y byddai wedi cael ei ddiswyddo pe bai’n dal i wasanaethu gyda’r heddlu. Cyfaddefodd y cyn-DCI Cooper iddo dorri’r safonau ymddygiad proffesiynol o ran gonestrwydd ac uniondeb, ymddygiad sy’n dwyn anfri, a gorchmynion a chyfarwyddiadau.
Nid oedd modd adrodd ar yr achos disgyblu tan nawr rhag ofn iddo danseilio’r achos troseddol.
Dywedodd Emily Barry, Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC:
“Mae ein cydymdeimlad yn parhau gyda theulu Mr Bane a phawb yr effeithiwyd arnynt gan ei farwolaeth. Rydym hefyd yn cydnabod yr anafiadau difrifol iawn a achoswyd i’r fenyw a’r effaith arni hi a’i theulu.
“Mae yna dystiolaeth i awgrymu bod y cyn-DCI Cooper wedi gwneud penderfyniad ymwybodol i yrru er gwaethaf ei gyflwr, a hefyd wedi methu â hysbysu’r DVLA am ei lewygiadau blaenorol er iddo gael cyngor ysgrifenedig i wneud hynny ar fwy nag un achlysur. Mae bellach wedi cael ei ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd ac wedi derbyn dedfryd o garchar.”
Ychwanegodd: “Yn y gwrandawiad disgyblu a ddeilliodd o gamddefnyddio’r cerbyd heddlu, daeth cadeirydd y panel i’r casgliad fod yr ymddygiad yn ddifrifol, yn hirfaith ac yn gamddefnydd o swydd er budd personol. Mae gan ymddygiad o’r fath y potensial i danseilio hyder y cyhoedd mewn plismona. Byddai wedi cael ei ddiswyddo pe bai’n dal i wasanaethu ac mae wedi cael ei ychwanegu at restr waharddedig yr heddlu, gan ei atal rhag cael ei gyflogi gan yr heddlu yn y dyfodol.”
Yn ystod ymchwiliadau’r IOPC fe wnaethom gyfweld â’r cyn-DCI Cooper, astudio cofnodion ei ffôn gwaith a chasglu datganiadau gan dystion eraill o’r heddlu. Gwnaethom adolygu lluniau a gafwyd drwy dechnoleg adnabod rhifau ceir yn awtomatig a pholisïau’r heddlu, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â defnyddio cerbydau, teithio a threuliau.
Ym mis Mai 2023, ar ddiwedd ein hymchwiliad i’r gwrthdrawiad, anfonwyd ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Yn dilyn hynny, bu cydweithio partneriaethol sylweddol i helpu i adeiladu’r achos, gan arwain at awdurdodi cyhuddiadau yn erbyn y swyddog a’i bledion euog dilynol.