Byddai cyn-swyddog Heddlu'r Met wedi cael ei ddiswyddo am gamddefnyddio ei swydd gyda menyw agored i niwed
Byddai cyn-swyddog Heddlu Metropolitan wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol pe na bai eisoes wedi gadael yr heddlu, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Ffeindiodd panel disgyblu heddiw (dydd Gwener 26 Mehefin) fod y cyn-Heddwas David Wager – a oedd wedi’i leoli yn Bexleyheath – wedi camddefnyddio ei swydd fel cwnstabl heddlu i ddilyn perthynas rywiol ac emosiynol â menyw cyfarfu â hi yn ystod ei ddyletswyddau.
Dechreuon ni ymchwiliad annibynnol pan gyfeiriwyd cwyn y fenyw atom gan y Met ym mis Mawrth 2022. Roedd hi wedi adrodd am ymddygiad PC Wager i swyddogion eraill yn ystod digwyddiad digyswllt.
Ffeindiodd ein ymchwiliad ei fod wedi cyfarfod â'r fenyw gyntaf tra ar ddyletswydd ym mis Medi 2016 a'i hebrwng i'r ysbyty tra roedd hi'n feddw ac yn profi problemau iechyd meddwl difrifol.
Tra yn yr ysbyty, cyffyrddodd â'i bron heb ganiatâd.
Yn ddiweddarach, dechreuodd Wager gysylltu â hi drwy Facebook – gan gyfnewid mwy na 300 o negeseuon mewn pythefnos – ac aeth ymlaen i ddilyn perthynas emosiynol a rhywiol, gan gynnwys ymweld â hi gartref.
Roedd y swyddog yn gwybod bod y fenyw mewn sefyllfa fregus, gyda phryderon iechyd meddwl wedi'u dogfennu.
Dywedodd cyfarwyddwr ymgysylltu IOPC, Amanda Rowe: “Roedd yr achos hwn yn ymwneud â chamddefnydd amlwg o swydd, lle canfuwyd bod swyddog heddlu wedi datblygu perthynas rywiol ac emosiynol â menyw agored i niwed gwnaeth e gyfarfod â tra ar ddyletswydd.
“Disgwylir i swyddogion heddlu gynnal y safonau uchaf o ran ymddygiad proffesiynol ac maent yn ymwybodol iawn na ddylent byth gam-fanteisio ar eu swydd er budd personol neu rywiol.
“Mae’r math hwn o ymddygiad yn tanseilio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona. Mae'n gywir bod yr ymddygiad hwn wedi cael ei drin mewn modd cadarn.”
Fel rhan o'n ymchwiliad, fe gwnaethom gyfweld â'r swyddog, archwilio ei ddyfeisiau digidol a chasglu tystiolaeth gan dystion a ffynonellau dogfennol. Gwnaethom ni archwilio cofnodion yr heddlu a chofnodion meddygol, cyfrifon tystion a mwy na 300 o negeseuon Facebook yn dangos datblygiad y berthynas.
Gwadodd y cyn-Heddwas Wager yr honiadau ond ni gymerodd ran yn y broses camymddwyn. Heddiw, canfu panel fod yr achos o gamymddwyn difrifol wedi'i brofi a'i fod wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu yn ymwneud â gonestrwydd ac uniondeb; awdurdod, parch a chwrteisi; dyletswyddau a chyfrifoldebau; ac ymddygiad diystyriol.
Bydd e nawr yn cael ei ychwanegu at restr wahardd yr heddlu.
Ar ddiwedd ein hymchwiliad, ym mis Medi 2023, anfonwyd ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron i ystyried cyhuddiadau troseddol posib. Ym mis Medi 2024, penderfynodd beidio â chyhuddo'r cyn-swyddog.