Swyddog Met wedi'i glirio dros ymchwiliad i ymddygiad David Carrick 

Published: 20 Mar 2026
News

Mae swyddog o'r Heddlu Met wedi'i glirio o gamymddwyn difrifol yn sgil honiadau sy'n ymwneud ag  ymchwiliad camymddwyn i'r  troseddwr rhywiol cyfresol a chyn-swyddog Met,  David Carrick. 

Ymchwiliodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i'r ymchwiliad camymddwyn gan Gyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol y Met (DPS) ar ôl i gyn-bartner Carrick gyflwyno adroddiad ym mis Gorffennaf 2021 am dreisio ac ymosod rhywiol ganddo.The Independent Office for Police Conduct (IOPC) investigated the misconduct investigation by the Met’s Directorate of Professional Standards (DPS), after a former partner of Carrick made a report in July 2021 of rape and sexual assault by him. 

Cafodd yr ymchwiliad troseddol, a gynhaliwyd gan Gwnstabliaeth Hertfordshire, ei gau ac fe wnaeth ymchwiliad ymddygiad gan y Met ddarganfod nad oedd gan Carrick unrhyw achos disgyblu i'w ateb.  

Gwnaethom gwblhau ein ymchwiliad ym mis Medi 2024 a darganfod bod gan y Ditectif Rhingyll (DS) Ray Mackennon, a oedd yn gyfrifol am oruchwylio ymchwiliad camymddwyn y  Met, achos i'w ateb am gamymddwyn difrifol yn ymwneud â honiadau o fod wedi methu goruchwylio'r ymchwiliad camymddwyn yn gywir.

Yn dilyn gwrandawiad pum-diwrnod a ddaeth i ben heddiw (20 Mawrth), ffeindiodd y panel, a apwyntiwyd gan y Met a drefnodd y gwrandawiad, bod yr achos o blaid camymddwyn difrifol ddim wedi cael ei brofi.

Dywedodd  cyfarwyddwr IOPC Amanda Rowe :  "Ein rôl ni yw penderfynu os oes gan unrhyw swyddogion achos disgyblu i'w ateb.

"Ar ôl ystyried ei weithredoedd mewn achos disgyblu, penderfynodd y panel, a gadeiriwyd gan uwch-swyddog Met, bod yr honiadau ddim wedi eu profi.

“Mae penderfyniad heddiw yn rhoi diwedd ar yr holl weithdrefnau sy'n ymwneud â'n ymchwiliadau i'r modd gwnaeth yr heddlu ddelio â'r cyhuddiadau am David Carrick."

Gwnaeth ein ymchwiliad hefyd  ddarganfod bod yna achos i'w ateb am  gamymddwyn ar gyfer y ditectif gwnstabl  a oedd wedi cynnal yr ymchwiliad a'r  uwch-reolwr achos a dderbyniodd eu canfyddiadau.  Cynhaliodd y llu gyfarfodydd camymddwyn ar gyfer y ddau unigolyn, lle tynnwyd y casgliad nad yw camymddwyn wedi'i brofi.  

Cynhaliodd IOPC dri ymchwiliad arall i'r ffordd y gwnaeth  y Met ddelio â honiadau yn erbyn David Carrick: 

  • Byddai dau  arolygydd wedi  cael achos i'w ateb am gamymddwyn, pe na baent eisoes wedi ymddeol,  yn dilyn methiant ganddynt i atgyfeirio adroddiad o ymosodiad ac aflonyddu a gafodd ei wneud yn erbyn Carrick yn 2002 gan gyn-bartner at Gyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol  (DPS) y Met. Yn hytrach na hyn, cafodd rheolwr llinell Carrick air gyda fe. 
  • Wynebodd dau swyddog gyfarfodydd camymddwyn,  lle ni gafodd camymddygiad ei brofi , er bod un ohonynt wedi  dod o dan y broses adolygu ymarfer myfyriol (RPRP).   Roedd hyn ar ôl i ni ymchwilio i fethiant i ymchwilio'n ddigonol  ar ôl i DPS gael eu hysbysu o'r adroddiad o ymosodiad ac aflonyddu a gafodd ei wneud yn erbyn Carrick gan gyn-bartner yn 2016. Cynhaliodd Cwnstabliaeth Hampshire ymchwiliad troseddol , ond  ni gafodd unrhyw gamau pellach eu cymryd  gan y Met ynghylch   materion disgyblu. 
  • Ymgymerodd dau arolygydd ag ymarfer myfyriol yn ymwneud â methiannau i ymchwilio i gamymddwyn posib  gan Carrick mewn perthynas ag ymchwiliad troseddol, wedi'i gynnal gan Gwnstabliaeth Hertfordshire,  yn dilyn adroddiad  o ymosod a wnaethpwyd yn 2019 gan gyn bartner. 

 Mewn achos ar wahân, rhoddwyd rhybuddion terfynol ysgrifenedig am gamymddwyn i ddau swyddog Heddlu Wiltshire a oedd wedi methu i ymchwilio'n ddigonol i honiad o gam-drin gan Carrick pum mlynedd cyn iddo gael ei arestio am y tro cyntaf.

Tags
  • Metropolitan Police Service
  • Llygredd a cham-drin pŵer